Cwyllog

santes Geltaidd

Santes Gymreig o ddechrau'r 6g oedd Cwyllog (neu Cywyllog)[1]. Ychydig a wyddys amdani ond mae ei henw anghyffredin yn awgrymu tarddiad Celtaidd. Fel oedd yn arferol yn Oes y Seintiau roedd hi yn perthyn i nifer o seintiau eraill. Dywedir iddi sefydlu Eglwys St Cwyllog ym mhentref Llangwyllog, yng nghalon Ynys Môn. Dethlir ei dydd gŵyl yn flynyddol ar 7 Ionawr.

Cwyllog
Ganwyd550 Edit this on Wikidata
Rheged Edit this on Wikidata
Man preswylLlangwyllog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Blodeuodd520 Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl7 Ionawr Edit this on Wikidata
TadCoel Hen Edit this on Wikidata
PriodMedrawd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd Cwyllog yn ferch i Caw neu Coel o Rheged un o penaethiaid yr Hen Ogledd a gollodd ei diroedd ac a ddihangodd i ogledd-ddwyrain Môn gyda'i deulu, lle cafodd dir yn anrheg gan Faelgwn Gwynedd ar yr amod eu bod yn canolbwyntio ar grefydd a pheidio a cheisio gwladfa iddynt eu hunain[2]; sefydlodd ar y tir a elwir yn Twrcelyn.[3]. Roedd gan Cwyllog dair chwaer: Cain, Peithien a Gwenafwy a sawl brawd gan gynnwys y seintiau Gildas, Allgo ac Eugrad. Mae'r union nifer o frodyr a chwiorydd (rhwng 10 a 21) yn dibynnu ar ba femrwn a ddarllenir.[3][4]

Gŵr Cwyllog oedd Medrod, nai i'r Brenin Arthur ac yn ôl yr hanesydd Angharad Llwyd yn ei llyfr Hanes Môn, trodd at yr eglwys wedi marwolaeth Medrawd ym Mrwydr Camlan oddeutu 537.[1]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Baring-Gould, t. 279.
  2. Baring-Gould, S a Fisher,J. gol. Bryce, 1990, Lives of the British Saints, Llanerch
  3. 3.0 3.1 Baring-Gould, pp. 92–94
  4. Baring-Gould, p. 55.