Gweithred ffurfiol unochrog yw cyfeddiannaeth a wneir gan wladwriaeth sydd yn datgan sofraniaeth dros diriogaeth a oedd cyn hynny y tu allan i'w hawdurdodaeth. Fel arfer byddai gwladwriaeth yn cyfeddiannu tiriogaeth sydd yn gartref i wladychwyr neu gydwladwyr, yn brotectoriaeth iddi neu y tu mewn i'w maes dylanwad, neu wedi ei choncro'n filwrol.

Lluoedd Rwsiaidd â mygydau ("dynion gwyrddion bychain") yng nghanolfan milwrol Perevalne, adeg argyfwng y Crimea ym Mawrth 2014. Wedi chwyldro'r Euromaidan yn yr Wcráin, cafodd y Crimea ei goresgyn gan Rwsia gyda chefnogaeth ymwahanwyr lleol. Yn sgil refferendwm, cafodd Gweriniaeth Crimea ei chyfeddiannu gan Ffederasiwn Rwsia.

Nid oes rhaid i'r awdurdod sydd yn meddu'r diriogaeth ynghynt i gytuno i gael ei gyfeddianu, ond disgwylir i'r gyfeddiannaeth gael ei gydnabod yn gyffredinol gan wledydd eraill, boed yn swyddogol neu'n ymarferol. Os yw gwladwriaeth yn cytuno i ildio'i thiriogaeth i wladwriaeth arall trwy gytundeb neu werthiant, gelwir hynny yn ddadafeiliad ac nid cyfeddiannaeth. Yn ôl Siarter y Cenhedloedd Unedig, dylai hunanbenderfyniad y boblogaeth fod yn sail i drawsnewid tiriogaeth o un wladwriaeth i wladwriaeth arall. Nid oes cydnabyddiaeth ffurfiol o gyfeddiannaeth yn y gyfraith ryngwladol. Mae'r arferion a'r broses yn amrywio'n ôl cyfraith gyfansoddiadol y wladwriaeth sydd yn cyfeddiannu'r tir. Er enghraifft, cafodd cyfeddiannaethau Texas ac Hawaii gan Unol Daleithiau America eu cadarnhau trwy benderfyniadau gan y Gyngres.

Rhestr cyfeddiannau hanesyddol golygu