Melysfwyd a wneir o fenyn, siwgr, llaeth a chyflasynnau yw cyffug.[1] Caiff y cymysgedd ei goginio i'r cam pêl feddal. Ychwanegir menyn wrth iddo oeri, a'i guro gan greu ansawdd lefn a meddal. Fe'i arllwysir i badell, a'i dorri'n sgwariau. Weithiau defnyddir hufen sur yn lle menyn a llaeth. Siocled yw'r prif gyflasyn gan amlaf, ond gellir hefyd ddefnyddio hufen malws melys, menyn pysgnau, fanila, sudd masarn, neu fenyn caramel. Weithiau cymysgir cnau neu resins i mewn i'r cyffug.[2]

Cyffug

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, [fudge].
  2. (Saesneg) fudge. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2015.