Cyflafan Mỹ Lai

Cyflafan ar 16 Mawrth 1968 yn ystod Rhyfel Fietnam oedd cyflafan Mỹ Lai (Fietnameg: thảm sát Mỹ Lai) a welodd llofruddiaeth dorfol o 347-504 o sifiliaid di-arf o'r pentrefannau Mỹ Lai a Mỹ Khe ym mhentref Sơn Mỹ yn Ne Fietnam gan filwyr Byddin yr Unol Daleithiau o Gwmni "Charlie" y Bataliwn 1af, 20fed Gatrawd Draed, 11eg Frigâd yr Adran Americal. Roedd y mwyafrif o'r meirw yn fenywod, plant (gan gynnwys babanod), ac henoed. Cafodd nifer eu treisio, eu pwyo, a'u harteithio, a chafodd rhai o'r cyrff eu llurgunio. Cyhuddwyd 26 o filwyr Americanaidd o droseddau'n ymwneud â Mỹ Lai, ond dim ond yr Ail Is-gapten William Calley, arweinydd un o blatwnau Cwmni Charlie, a gafwyd yn euog. Dedfrydwyd i garchar am oes am ladd 22 o bentrefwyr, ond bwrodd tri mlynedd a hanner dan arestiad tŷ yn unig.

Cyflafan Mỹ Lai
Enghraifft o'r canlynolcyflafan, war crimes trial, Trosedd rhyfel, wartime sexual violence Edit this on Wikidata
Dyddiad16 Mawrth 1968 Edit this on Wikidata
Lladdwyd504, 347 Edit this on Wikidata
Rhan olist of massacres in Vietnam, Rhyfel Fietnam Edit this on Wikidata
LleoliadSơn Mỹ Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethDe Fietnam Edit this on Wikidata
RhanbarthSơn Tịnh Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Un o'r ffotograffau enwog o'r cyflafan, a dynnwyd gan Ronald L. Haeberle.

Pan ddaeth y cyflafan i sylw'r cyhoedd ym 1969 achosodd dicter ar draws yr Unol Daleithiau a'r byd, gan ychwanegu at wrthwynebiad i ymyrraeth yr Americanwyr yn Rhyfel Fietnam. Cafodd tri milwr Americanaidd a geisiodd dod â'r lladd i ben eu condemnio gan Gyngreswyr eu gwlad. Ni chafon nhw eu anrhydeddu am eu hymdrechion nes 30 mlynedd wedi cyflafan Mỹ Lai.

Darllen pellach golygu

  • Bilton, Michael a Sim, Kevin. Four Hours in My Lai (Efrog Newydd, Viking, 1992).