Cyflwr cyfarchol

gramadeg treiglo

Y Cyflwr Cyfarchol (weithiau modd cyfarchol) yw'r term gramadegol ar yr arfer o gryfhau neu dynnu sylw arbennig at berson, anifail neu wrthrych o fewn brawddeg; gwneir hyn yn y Gymraeg drwy dreiglo. Roedd yn arfer yn yr ieithoedd Indo-Ewropeaidd ac yn Lladin; bellach, fe arddelir y cyflwr cyfarchol yn y Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd (heblaw Llydaweg), yn yr ieithoedd Slafonig (heblaw Rwsieg) ac yn y Lithwaneg a'r Latfieg. Mae wedi ei golli yn yr ieithoedd Germanaidd gan gynnwys y Saesneg.

Arwydd gyda'r modd cyfarchol ar wal gegin ym Mhrifysgol Abertystwyth. Noder fod 'myfyrwyr' wedi ei dreiglo oherwydd y cyflwr cyfarchol er mwyn tanlinellu pwysigrwydd y neges

Cyflwr Cyfarchol mewn ieithoedd Celtaidd golygu

Cymraeg golygu

Yr enghraifft amlwg, syml yn y Gymraeg yw pan fydd siaradwr yn treiglo "boneddigion" i foneddigion[1] ar ddechrau brawddeg er mwyn denu sylw'r gynulleidfa; neu'r athro yn gweiddi "blant" ar ddisgyblion er mwyn cadw trefn. Ceir yn y gân 'O Gymru' gan Eleri Llwyd.[2]

Efallai mai un o'r enghreifftiau amlycaf o ddefnydd o'r cyflwr cyfarchiol a hynny'n treiglo enw person (sy'n anghyffredin bellach yn y Gymraeg) yw'r cwpled o gerdd 'Fy Ngwlad (Cerddi'r Cywilydd) gan Gerallt Lloyd Owen lle treiglir yr enw Llywelyn:[3]

Wylit, wylit, Lywelyn,
Wylit waed pe gwelit hyn

Gwelir y cyflwr cyfarchol yn yr ieithoedd Gwyddeleg a Gaeleg. Yn wahanol i'r Gymraeg, mae'r ddwy iaith hyn yn dal i dreiglo enwau pobl, ac mae'r enwau "Hamish" yn ffurf gyfarchol (a sillafiad Saesneg) ar Seumas a'r enw Mháiri (a ynganer yn gywir fel 'Fari') yn ffurf gyfarchol ar Màiri. Yn wahanol i'r Gymraeg mae'r ieithoedd Goideleg yn dal i arddel y cyflwr genidol.

Treigladau oherwydd Cyflwr Cyfarchol yn y Wyddeleg golygu

Cenedl Enw Gwrywaidd Benywaidd
Un. Goddrychol an fear mór an buachaill mór Seán an bhean mhór an deirfiúr mhór Máire
Genidol an fhir mhóir an bhuachalla mhóir Sheáin na mná móire na deirféar móire Mháire
Cyfarchol a fhir mhóir a bhuachaill mhóir a Sheáin a bhean mhór a dheirfiúr mhór a Mháire
Llu. Goddrychol na fir móra na buachaillí móra na mná móra na deirfiúracha móra
Genidol na bhfear mór na mbuachaillí móra na mban mór na ndeirfiúracha móra
Cyfarchol a fheara móra a bhuachaillí móra a mhná móra a dheirfiúracha móra
Cymraeg y dyn mawr y bachgen mawr Siôn y dynes fawr y chwaer fawr Mari

Gaeleg - Cyflwr Cyfarchol, Treiglo Enwau Pobl golygu

Defnyddir treigliadau yn yr iaith Aeleg yn yr Alban i ddynodi'r cyflwr cyfarchol hefyd:

Goddrych Cyflwr Cyfarchol
Caitrìona a Chaitrìona
Dòmhnall a Dhòmhnaill
Màiri a Mhàiri
Seumas a Sheumais
Ùna Ùna
a choin

Ieithoedd Slafonig golygu

Ceir y cyflwr cyfarchol mewn sawl iaith Slafonig, a dynodir hi fel terfyniad gair.

Bwlgareg golygu

Yn wahanol i ieithoedd Slafaidd eraill ac eithrio Macedoneg, mae Bwlgareg wedi colli dynodiad cyflyrau ar gyfer enwau. Fodd bynnag, mae Bwlgareg yn cadw'r cyflwr cyfarchol. Mae gan enwau gwrywaidd traddodiadol â diwedd cyfarchol fel rheol.

Nominative Cyfarchol
Петър Petar Петре Petre
Тодор Todor Тодоре Todore
Иван Ivan Иване Ivane

Fe all fod gan enwau mwy diweddar neu thramor gyflwr cyfarchol ond bur anaml y defnyddir hyn (mae Ричарде, yn hytrach na'n syml Ричард Richard, yn swnio'n anarferol i siaradwyr cynhenid).

Mae ymadrodd cyfarchol megis господин министре (Mr Minister) bron wedi eu llwyr dileu gan y cyflyrau nominative forms, yn arbennig mewn ysgrifennu swyddogol. Mae gan enawu priod hefyd fel rheol ffurf cyfarchol, ond fe;u defnyddir yn llai aml. Ceir rhai enwau pris a ddefnyddir yn aml yn y cyflwr cyfarchol:

Gair Cymraeg Enw Priod Cyfarchol
Duw Бог Bog Боже Bozhe
Arglwydd Господ Gospod Господи Gospodi
Iesu Grist Исус Христос Isus Hristos Исусе Христе Isuse Hriste
Cymrawd другар drugar другарю drugaryu
Esgob поп pop попе pope
Broga жаба zhaba жабо zhabo
ffŵl глупак glupak глупако glupako

Bydd y cyflwr cyfarchol yn bodoli fel rheol ar gyfer enwau i ferched:

Enw priod Cyfarchol
Елена Elena Елено Eleno
Пена Pena Пено Peno
Елица Elitsa Елице Elitse
Радка Radka Радке Radke

Heblaw am ffurfiau sy'n gorffen gydag -е, fe'i ystyrir yn sarhaus ac fel rheoli fe'u hosgoir. Ar gyfer ffurfiau annwyl, defnyddir y cyflwr cyfarchol:

Gair Cymraeg Enw priod Cyfarchol
Nain Баба Baba Бабо Babo
Mam Майка Mayka
Мама Mama
Майко Mayko
Мамо Mamo
Modryb Леля Lelya Лельо Lelyo
Chwaer Сестра Sestra Сестро Sestro

Pwyleg golygu

Yn yr iaith Bwyleg mae'r cyflwr cyfarchol (wołacz mewn Pwyleg) yn peri i enwau benywaidd dderbyn -o (heblaw geiriau sy'n diweddu gyda -sia, -cia, -nia, a -dzia, sy'n derbyn -u, a'r rhai sy'n diweddu gyda -ść, dderbyn -i.

Mae enwau gwrywaidd yn dilyn patrwm cymhleth y cyflwr lleoliadol, ac eithro llond llaw o eiriau megus Bóg → Boże ("Duw"), ojciec → ojcze ("tâd") a chłopiec → chłopcze ("bachgen"). Mae enwau di-genedl a lluosog yn dilyn yr un ffurf yn y cyflwr enwadol ag yn y cyflwr cyfarchol.:

Goddrych Cyflwr Cyfarchol
Benywaidd
Pani Ewa (Mrs. Eve) Pani Ewo! (Mrs. Eve!)
Ewusia (bychanig Ewa) Ewusiu!
ciemność (tywyllwch) ciemności!
książka (llyfr) książko!
Gwrywaidd
Pan profesor (Mr. Professor) Panie profesorze! (Mr. Brofessor!)
Krzysztof (Christopher) Krzysztofie! (Christopher!)
Krzyś (Chris) Krzysiu! (Chris!)
wilk (blaidd) wilku! (flaidd!)
człowiek (dyn/person) człowieku! / człowiecze! (ddyn!)

Slofaceg golygu

Hyd at yr 1908au roedd cyflwr cyfarchol arbennig gan yr iaith Slofaceg a adnabuwyd ac a ddysgwyd yn yr ysgolion. Bellach, nid ystyrir y cyflwr yn un byw ac arddelir hi ond mewn ffurfiau hynafol gan mwyaf ym maes crefydd neu lenyddiaeth neu mewn cyd-destun eironig.

Lithwaneg golygu

Ceir yn cyflwr cyfarchol yn ieithoedd byw y Baltig, Lithwaneg a Latfieg. Yn Lithwaneg:

vyrasvyre ("gwas")
brolisbroli" ("brawd")

Ieithoedd Romáwns golygu

Arferid y cyflwr cyfarchol yn y Lladin - gweler dyfyniad enwog, "Et tu Brute" gyda Brute yn ffurf gyfarchol ar yr enw "Brutus". Prin yr arddelir y cyfarchol yn y Ffrangeg ond mae'n bodoli mewn gwahanol ffurfiau mewn ieithoedd Romáwns eraill.

Rwmaneg golygu

Fel yn y Lladin a'r ieithoedd Slafonig cyfagos, gwelir y cyfarchol ar ddiwedd y gair yn yr iaith Rwmaneg:

  • terfyniad "-e" i eiriau gwrywaidd:
omomule! ("dyn/gŵr")
băiatbăiete! pe băiatule! ("bachgen - fachgen!")
vărvere! ("cefnder")
IonIoane!("Ioan")
  • terfyniad -o" i eiriau benywaidd:
sorăsoro! ("chwaer")
nebunănebuno! ("dynes wallgo")
IleanaIleano! ("Helen")
  • terfyniad"-lor" i'r lluosog:
fraţifraţilor! ("brodyr - frodyr!")

Catalaneg golygu

Bydd y Gatalaneg yn gollwng y fannod er mwyn ffurfio'r cyflwr cyfarchol. Yr arfer yw denfnyddio'r fannod wrth gyfeirio ar bobl ym mhob achos arall, er enghraifft. Mae hepgor y fannod yn dynodi sylw a pharch.

Dolenni golygu

Cyferiadau golygu

  1. https://ybont.org/pluginfile.php/3370/mod_resource/content/5/Uned%203.pdf[dolen marw]
  2. https://www.youtube.com/watch?v=sZY6IgiPYPQ
  3. https://www.reddit.com/r/PoetryWales/comments/2g0dmn/fy_ngwlad_by_gerallt_lloyd_owen/