Cân werin Gymreig yw Cyfri'r Geifr. Mae'n bosib ei bod yn tarddu o un o ddefodau gwaseila Gŵyl Fair, lle byddai'r cantorion yn ceisio mynd i mewn i dŷ trwy ofyn cwestiwn ("Oes gafr eto?" yn y gân hon), a'r rhai yn y tŷ yn ymateb gyda dilyniant cynyddol o atebion.[1]

Geiriau golygu

Oes gafr eto?
Oes heb ei godro?
Ar y creigiau geirwon
Mae’r hen afr yn crwydro.

Gafr wen, wen, wen.
Ie finwen, finwen, finwen.
Foel gynffonwen, foel gynffonwen,
Ystlys wen a chynffon wen, wen, wen.

Gafr ddu, ddu, ddu.
Ie finddu, finddu, finddu.
Foel gynffonddu, foel gynffonddu,
Ystlys ddu a chynffon ddu, ddu, ddu.

Gafr goch, goch, goch.
Ie fingoch, fingoch, fingoch.
Foel gynffongoch, foel gynffongoch,
Ystlys goch a chynffon goch, goch, goch.

Gafr las, las, las.
Ie finlas, finlas, fin las.
Foel gynffonlas, foel gynffonlas,
Ystlys las a chynffon las, las, las.

Yn ôl traddodiad, yn y pennill olaf, pinc yw'r afr …

Gafr binc, binc, binc.
Ie fin binc, fin binc, fin binc.
Foel gynffonbinc, foel gynffonbinc,
Ystlys binc a chynffon binc, binc, binc.

Cyfeiriadau golygu

  1. Davies, John et al. (gol.) Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 217
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato