Cyfryngau'r Unol Daleithiau a Rhyfel Fietnam

Rhyfel Fietnam oedd "y rhyfel teledu cyntaf": y tro cyntaf i fwyafrif o boblogaeth yr Unol Daleithiau weld rhyfel ar raglenni newyddion eu setiau teledu. Mae rôl y cyfryngau newyddion Americanaidd yn y rhyfel yn bwnc dadleuol. Yn ôl y feirniadaeth draddodiadol gan gefnogwyr y rhyfel a'r cadfridogion Americanaidd, yr oedd tuedd ryddfrydol gan y cyfryngau a wnaethant portreadu ymdrech filwrol yr Americanwyr yn Fietnam mewn modd negyddol ac annheg, ac o ganlyniad cynyddodd gwrthwynebiad i'r rhyfel. Mae eraill yn dadlau y wnaeth cyfryngau newyddion yr Unol Daleithiau adlewyrchu'r twf mewn gwrthwynebiad y cyhoedd i'r rhyfel, nid siapio barnau'r cyhoedd.

Cyfryngau'r Unol Daleithiau a Rhyfel Fietnam
Enghraifft o'r canlynolmedia coverage Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

"Daeth teledu â chreulondeb rhyfel i gysur yr ystafell fyw. Collwyd Fietnam mewn ystafelloed byw America—nid ar feysydd brwydr Fietnam."

Dyddiau cynnar (1960–4) golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gweinyddiaeth Johnson a dwysâd (1965–7) golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Ymosodiad Tet (1968) golygu

 
Walter Cronkite, "y dyn mwyaf ddibynadwy yn America", yn Fietnam.

Ystyrid Ymosodiad Tet yn drobwynt o ran agweddau'r cyfryngau a'r cyhoedd Americanaidd i Ryfel Fietnam.

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Gweinyddiaeth Nixon ac enciliad (1969–1973) golygu

Ym 1971 cyhoeddwyd darnau o Bapurau'r Pentagon, hanes swyddogol yr Adran Amddiffyn o ymyrraeth yr UD yn Indo-Tsieina, gan The New York Times (NYT), The Washington Post, a The Boston Globe. Cafodd y ddogfennau eu copïo'n gudd gan Daniel Ellsberg a'u rhoi i'r newyddiadurwr Neil Sheehan oedd yn gweithio i'r NYT. Dyfarnodd Goruchaf Lys yr Unol Daleithiau yn yr achos yr oedd Gwelliant Cyntaf y Cyfansoddiad yn amddiffyn hawl yr NYT i gyhoeddi'r Papurau. Dangosodd y Papurau y wnaeth yr UD ymledu'r rhyfel i Laos a Chambodia a gorchymyn cyrchoedd arfordirol ar Ogledd Fietnam, er nad oedd y cyfryngau wedi datgelu hyn o'r blaen. Amlygodd y Papurau "bwlch credadwyaeth, cydnabyddiaeth nad oedd y cyhoedd yn gallu credu unrhyw beth a ddatganwyd gan y llywodraeth".[1]

Etifeddiaeth golygu

O ganlyniad i'r teimladau oedd gan wleidyddion a chadfridogion Americanaidd y wnaeth y cyfryngau colli'r rhyfel, rhoddwyd cyfyngiadau ar newyddiadurwyr mewn ymyraethau milwrol gan yr Unol Daleithiau ers diwedd Rhyfel Fietnam, gan gynnwys Grenada, Panama, Rhyfel y Gwlff, a Rhyfel Irac.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Olson a Roberts, t. 226.
  2. Hess, t. 133.

ffynonellau golygu

  • Hess, G. R. Vietnam: Explaining America's Lost War (Rhydychen, Blackwell, 2009).
  • Olson, J. S. a Roberts, R. Where the Domino Fell: America and Vietnam 1945–1995 (Rhydychen, Blackwell, 2008).

Darllen pellach golygu

  • Braestrup, P. Big Story: How the American Press and Television Reported and Interpreted the Crisis of Tet 1968 in Vietnam and Washington (Boulder, CO, Westview, 1977).
  • Cooper, G. Reporting Vietnam: American Journalism: 1959-1975 (Library of America, 2000).
  • Hallin, D. C. The Uncensored War: The Media and Vietnam (Berkeley, CA, Gwasg Prifysgol Califfornia, 1992).
  • Hammond, W. M. Reporting Vietnam: Media and Military at War (Lawrence, KS, Gwasg Prifysgol Kansas, 2000).
  • Steinman, R. Inside Television's First War: A Saigon Journal (Columbia, MO, Gwasg Prifysgol Missouri, 2002).