Mewn seryddiaeth, gall cyhydnos olygu un o ddau beth:

  • Yr ennyd pan mae'r haul wedi ei leoli un union dros gyhydedd y ddaear sef yr adeg pan nad yw echel y Ddaear ddim yn gogwyddo i ffwrdd o'r haul na thuag at yr haul.
  • Ennyd mewn amser, pan mae'r pwynt gwanwynol, y cyhydedd wybrennol, ac elfennau eraill tebyg yn cael eu defnyddio i ddiffinio system cydfesur wybrennol.
Cyhydnos
Mathdigwyddiad blynyddol, ffenomen seryddol, pwynt mewn amser mewn perthynas ag amserlen gylchol Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebHeuldro Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAlban Eilir, Alban Elfed Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Diagram yn dangos golau'r Haul ar wyneb y Ddaear yn ystod un o'r ddwy cyhydnos.
Dyddiad ac amser
pob cyhydnos a heuldro'r Ddaear [1][2]
digwyddiad Cyhydnos Heuldro Cyhydnos Heuldro
mis Mawrth[3] Mehefin[4] Medi[5] Hydref[6]
blwyddyn dydd amser dydd amser dydd amser dydd amser
2019 20 21:58 21 15:54 23 07:50 22 04:19
2020 20 03:50 20 21:43 22 13:31 21 10:03
2021 20 09:37 21 03:32 22 19:21 21 15:59
2022 20 15:33 21 09:14 23 01:04 21 21:48
2023 20 21:25 21 14:58 23 06:50 22 03:28
2024 20 03:07 20 20:51 22 12:44 21 09:20
2025 20 09:02 21 02:42 22 18:20 21 15:03
2026 20 14:46 21 08:25 23 00:06 21 20:50
2027 20 20:25 21 14:11 23 06:02 22 02:43
2028 20 02:17 20 20:02 22 11:45 21 08:20
2029 20 08:01 21 01:48 22 17:37 21 14:14

Daw'r gair o'r Saesneg Equinox a ddaw o'r Lladin aequus cydradd a nox (nos) - oherwydd fod nos a dydd yn gydradd ar y diwrnod hwn: 12 awr.

Mewn seryddiaeth, mae cyhydnos yn ennyd mewn amser yn hytrach nag yn ddiwrnod, pan gellir gweld canol yr haul yn syth uwchben y cyhydedd, mae hyn yn digwydd o gwmpas 20 Mawrth (Alban Eilir) a 23 Medi (Alban Elfed) bob blwyddyn. Dyma ddau o'r gwyliau pwysicaf yng nghalendr y Celtiaid a sawl diwylliant arall o gwmpas y byd.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. United States Naval Observatory (4 Ionawr 2018). "Earth's Seasons and Apsides: Equinoxes, Solstices, Perihelion, and Aphelion". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 18 Medi 2018.
  2. "Cyhydnosau a Heuldroau: 2001 i 2100". AstroPixels.com. 20 Chwefror 2018. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2018.
  3. Équinoxe de printemps entre 1583 et 2999
  4. Solstice d’été de 1583 à 2999
  5. Équinoxe d’automne de 1583 à 2999
  6. Solstice d’hiver