Amrywiad ar blanhigyn a gynhyrchir drwy glonio neu groesi er amaethyddiaeth neu arddwriaeth yw cyltifar. Mewn planhigion sy'n atgynhyrchu'n anrhywiol, clôn yw'r cyltifar; mewn planhigion sy'n atgynhyrchu'n rhywiol, llinach bur yw cyltifar sy'n hunanbeillio, a phoblogaeth y gellir ei gwahaniaethu'n enetig yw cyltifar sy'n croesbeillio.[1]

Cyltifar
Enghraifft o'r canlynolrheng tacson Edit this on Wikidata
Mathcultigen, tacson Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Datblygodd y botanegwr Americanaidd Liberty Hyde Bailey system ddosbarthu'r cyltigen,[2] sy'n ehangach na'r cyltifar ac yn cynnwys planhigion sy'n tarddu o weithgareddau dynol.[3] Bathodd y cyfansoddair cultivar gan gyfuno'r geiriau "cultivated" a "variety", neu o bosib "cultigen" a "variety". Nid yw cyltifar yr un peth ag amrywiad botanegol,[4] a cheir rheolau gwahanol wrth enwi amrywiadau a chyltifarau. Yn ddiweddar mae enwi cyltifarau yn broses gymhleth o ganlyniad i batentau a hawliau bridwyr.[5] Yn ôl Côd Planhigion Meithrinedig y Gymdeithas Ryngwladol dros Wyddor Arddwrol, mae enw cyltifar yn cynnwys y deuenw Lladin a'r enw cyffredin mewn dyfynodau sengl.[6]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) cultivar. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Gorffennaf 2016.
  2. Bailey 1923, t. 113
  3. Spencer & Cross 2007, t. 938
  4. Lawrence 1953, tt. 19–20
  5. "See". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-11. Cyrchwyd 2016-07-19.
  6. Cultivated Plant Code Article 14.1 Brickell 2009, t. 19