Cymdeithas y Beibl

Cymdeithas anenwadol i gyflenwi copïau o'r Beibl trwy'r byd yw Cymdeithas y Beibl, yr enw llawn yw Y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor (Saesneg: British and Foreign Bible Society).

Cymdeithas y Beibl
Enghraifft o'r canlynolsefydliad elusennol, Bible society Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu7 Mawrth 1804 Edit this on Wikidata
SylfaenyddWilliam Wilberforce Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolUnited Bible Societies Edit this on Wikidata
Gweithwyr130, 134, 146, 148, 127 Edit this on Wikidata
PencadlysSwindon Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.biblesociety.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ffurfiwyd y gymdeithas yn Llundain ar 4 Mawrth 1804. Rhoddwyd y sbardun i greu'r gymdeithas pan gerddodd Mary Jones 25 milltir o Lanfihangel-y-Pennant i'r Bala i geisio prynu Beibl gan Thomas Charles. Nid oedd ganddo yr un yn weddill, ond o weld siom Mary, gwerthodd un oedd wedi ei addo i rywun arall iddi.

Ar ymweliad a Llundain yn nechrau 1804, soniodd wrth nifer o gyfeillion am yr hanes, gan bwysleisio'r prinder o Feiblau Cymraeg. Ymhlith y rhai oedd yn amlwg yn y gymdeithas yn ei dyddiau cynnar roedd William Wilberforce. Ymestynnodd ei gwaith i Loegr, India a rhai o wledydd Ewrop.

Dolenni allanol golygu