Cymdeithas yr Actorion Sgrîn

Mae Cymdeithas yr Actorion Sgrîn (CAS) yn undeb llafur Americanaidd sy'n cynrychioli dros 120,000 o berfformwyr ffilm a teledu a pherfformwyr cefndirol yn fyd-eang. Yn ôl Datganiad o Fwriad CAS, nod y Gymdeithas yw i: negydu a gwireddu cytundebau sy'n sefydlu lefelau priodol o iawndal, budd-daliadau ac amodau gwaith ar gyfer ei aelodau; caslgu iawndal i'w haelodau os gaiff perfformiadau wedi'u recordio eu ecsploitio ac sicrhau nad yw'r perfformiadau hynny'n cael eu defnyddio heb ganiatad; i gynnal a hybu cyfleoedd gwaith i'w aelodau.

Cymdeithas yr Actorion Sgrîn
Enghraifft o'r canlynolundeb llafur Edit this on Wikidata
Daeth i ben30 Mawrth 2012 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu12 Gorffennaf 1933 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadPresident of SAG Edit this on Wikidata
OlynyddSAG-AFTRA Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.sagaftra.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1933 er mwyn atal actorion Hollywood rhag cael eu gorfodi i arwyddo cytundebau am nifer o flynyddoedd gyda'r prif stiwdios ffilmau. Nid oedd nifer o'r cytundebau hyn yn cynnwys cyfyngiadau ar oriau gweithio neu lleiafswm seibiau, ac yn aml byddent yn cael eu hadnewyddu'n otomatig ar ddymuniad y stiwdio. Roedd y cytundebau hyn yn enwog am ganiatau i'w stiwdios reoli bywydau cyhoeddus a phersonol y perfformwyr a fyddai'n eu harwyddo, ac gan amlaf, nid oedd modd i'r perfformiwr ddianc o'r cytundeb.