Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur

Sefydlwyd y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur (ECSC) ym 1951 gan Gytundeb Paris. Ei haelod-wladwriaethau oedd Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg (gwledydd Benelux), Gorllewin yr Almaen, Ffrainc a'r Eidal. Pwrpas y gymuned oedd cydgyfrannu adnoddau glo a dur ei haelod-wladwriaethau er mwyn rhwystro rhyfel arall yn Ewrop. Fe'i cynlluniwyd gan Jean Monnet, gwas sifil ac economegydd o Ffrainc, a fe'i cyhoeddwyd gan Robert Schuman, gweinidog tramor Ffrainc.

Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhanbarthol Edit this on Wikidata
Daeth i ben23 Gorffennaf 2002 Edit this on Wikidata
Rhan oyr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu18 Ebrill 1951 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganyr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
SylfaenyddGwlad Belg, Ffrainc, yr Eidal, Lwcsembwrg, Yr Iseldiroedd, Gorllewin yr Almaen Edit this on Wikidata
RhagflaenyddRuhrstatut Edit this on Wikidata
Olynyddyr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
PencadlysBrwsel Edit this on Wikidata
Enw brodorolEuropean Coal and Steel Community Edit this on Wikidata
Hyd50 blwyddyn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Roedd yr ECSC yn sylfaen i ddatblygiad y Gymuned Economaidd Ewropeaidd, a arweiniodd at y Gymuned Ewropeaidd ac, yn dilyn Cytundeb Maastricht, at yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Cytundeb Paris yn ddilys am 50 mlynedd yn unig, ac felly daeth yr ECSC i ben ar 23 Gorffennaf 2002. Roedd y Gymuned Ewropeaidd yn etifeddu cyfrifoldebau ac asedau yr ECSC (cadarhawyd hyn gan brotocol i Gytundeb Nice).

Llywyddion Uchel Awdurdod y Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur, 1952-1967 golygu

Gweler hefyd golygu

Cytundebau, strwythur a hanes yr Undeb Ewropeaidd
1951/1952 1957/1958 1965/1967 1992/1993 1997/1999 2001/2003 2007/2009 (?)
U N D E B   E W R O P E A I D D   ( U E )
Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD)
Cymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) Cymuned Ewropeaidd (CE)
Cymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom)
Tair Cymuned Ewropeaidd: CEGD, CEE ac Euratom Cyfiawnder a Materion Cartref  
Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol
mewn Materion Trosedd
Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin (PTDC)
Cytundeb Paris Cytundebau Rhufain Cytundeb Cyfuno Cytundeb Maastricht Cytundeb Amsterdam Cytundeb Nice Cytundeb Lisbon

"Tri philer yr Undeb Ewropeaidd"
(y Cymunedau Ewropeaidd, y PTDC, a Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol)