Cyndeyrn

sant, sylfaenydd Glasgow

Sant a gysylltir a teyrnas Frythonig Ystrad Clud yn yr Hen Ogledd oedd Cyndeyrn (Brythoneg: *Contigernos; Lladin: Cont[h]igirni[1]; Llydaweg a Saesneg: Kentigern) neu Mungo (tua 518 - 13 Ionawr 603). Cyfeirir ato hefyd fel Cyndeyrn Garthwys yn y traddodiad Cymreig.[2]

Cyndeyrn
Ganwyd550 Edit this on Wikidata
Culross Edit this on Wikidata
Bu farw13 Ionawr 614 Edit this on Wikidata
Glasgow Edit this on Wikidata
Man preswylGlasgow, Llanelwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
Swyddesgob Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl13 Ionawr Edit this on Wikidata
TadOwain ab Urien Edit this on Wikidata
MamTeneu Edit this on Wikidata
Cyndeyrn ar arfbais dinas Glasgow

Yn ôl traddodiad, roedd Cyndeyrn yn fab gordderch i Owain ab Urien ac yn ŵyr i Urien Rheged. Roedd Rhydderch Hael, brenin Ystrad Clud, yn noddwr iddo. Ef oedd sylfaenydd Glasgow. Ceir manylion amdano ym Muchedd Sant Cyndeyrn, a ysgrifennwyd ar gyfer Jocelin o Furness, esgob Glasgow, yn yr Oesoedd Canol. Alltudiwyd Cyndeyrn o ardal Ystrad Clud tua 545, a ffodd i ogledd-ddwyrain Cymru lle sefydlodd glas yn Llanelwy. Dywedir mai adeilad pren oedd y clas. Yno, bu gan y sant 965 o ddisgyblion, ac yn eu plith Asaph. Dychwelodd Cyndeyrn i Ystrad Clud, ar ôl Brwydr Arfderydd yn 573, a chysegrwyd Asaph yn esgob i'w olynu.

Cyfeirir at Gyndeyrn Garthwys mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel esgob dan Arthur ym Mhen Rhionydd yn yr Hen Ogledd.[3]

Ef yw nawdd sant Glasgow, a chysegrwyd yr Eglwys Gadeiriol iddo. Ar arfbais y ddinas, ceir llun y sant ac islaw iddo ceir coeden, aderyn, cloch a physgodyn, yn coffáu pedwar gwyrth a gyflawnwyd ganddo.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein, tud. 320.
  2. Trioedd Ynys Prydein, tud. 320.
  3. Trioedd Ynys Prydein, Triawd 1.