Cyngor Cymru a Mynwy

Roedd Cyngor Cymru a Mynwy (Saesneg: Council for Wales and Monmouthshire) yn gorff ymgynghorol gydag aelodau penodedig a gyhoeddwyd ym 1948 ac a sefydlwyd ym 1949 gan Lywodraeth y DU o dan Brif Weinidog Llafur Clement Attlee, i gynghori'r llywodraeth ar faterion o ddiddordeb Cymreig. Fe'i diddymwyd gyda sefydlu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru a ffurfio'r Swyddfa Gymreig ym 1964/65[1]. Fe'i gelwid yn gyffredinol yn "Gyngor Cymru".

Cyngor Cymru a Mynwy
Gwybodaeth gyffredinol
Sefydlwyd1949
MathCymru
SiambrauUnsiambr
TymhorauDim
Arweinyddiaeth
CadeiryddHuw T. Edwards
Aelodau27
System bleidleisioTrwy apwyntiad
Am y cyngor oedd yn llywodraethu Cymru rhwng 1473 a 1689, gweler Cyngor Cymru a'r Gororau.

Hanes golygu

Ffurfiwyd y Cyngor yn rhannol mewn ymateb i ddylanwad cynyddol Plaid Cymru yn dilyn yr Ail Ryfel Byd[1]. Roedd rhai gwleidyddion Llafur dylanwadol fel Aneurin Bevan, Morgan Phillips a Clement Attlee ei hun yn erbyn datganoli pwerau i Gymru, neu sefydlu swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan y byddai'n annog cenedlaetholdeb Cymreig. Credai Bevan, AS Cymru mwyaf dylanwadol a di-flewyn-ar-dafod ei ddydd, y byddai unrhyw fath o ddatganoli yn tynnu sylw Cymru oddi wrth brif ffrwd wleidyddol gwleidyddiaeth y DU ac yn niweidiol i fuddiannau'r wlad. Fodd bynnag, roedd rhai Aelodau Seneddol meincwyr cefn Cymru fel D. R. Grenfell, W. H. Mainwaring a James Griffiths yn cefnogi sefydlu swydd Ysgrifennydd Gwladol. Fel cyfaddawd, cytunodd y Llywodraeth i sefydlu Cyngor Cymru a Mynwy ond brif swyddogaeth y cyngor oedd i gynghori llywodraeth y DU ar faterion o ddiddordeb Cymreig[1].

Cyhoeddwyd y cynnig i sefydlu Cyngor Cymru Mynwy yn Nhŷ’r Cyffredin ar 24 Tachwedd 1948. Roedd ei gyfarfod agoriadol ym mis Mai 1949, a’i gyfarfod busnes cyntaf y mis canlynol. Ei gylch gorchwyl oedd:

  • cyfarfod o bryd i'w gilydd ac o leiaf bob chwarter i gyfnewid barn a gwybodaeth am ddatblygiad a thueddiadau yn y meysydd economaidd a diwylliannol yng Nghymru a Sir Fynwy; a
  • sicrhau bod y llywodraeth yn cael gwybodaeth ddigonol am effaith gweithgareddau'r llywodraeth ar fywyd cyffredinol pobl Cymru a Sir Fynwy[2].

Cafodd 27 aelod eu penodi i'r cyngor: enwebwyd 12 gan awdurdodau lleol Cymru ac roedd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru, Prifysgol Cymru, Cyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bwrdd Croeso a Gwyliau Cymru, a'r ochrau rheolwyr ac undebau diwydiant ac amaeth Cymru[3]. Y cadeirydd oedd Huw T. Edwards, arweinydd undeb llafur[4]. Cynhaliwyd cyfarfodydd y Cyngor yn breifat, ffynhonnell o ddadlau[5].

Sefydlodd y cyngor baneli a phwyllgorau amrywiol i ymchwilio i faterion sy'n effeithio ar Gymru, gan gynnwys panel i astudio ac adrodd ar sefyllfa yr Iaith Gymraeg; Panel Gweinyddu Llywodraeth; Panel Diwydiannol; Panel Datblygu Gwledig; Panel Trafnidiaeth; a Phanel Diwydiant Twristiaeth[2].

Cafodd Huw T Edwards ei adnabod fel Prif Weinidog Answyddogol Cymru[6].

Diddymu

Gyda thwf dylanwad Plaid Cymru yn y 1950au, argymhellodd y Cyngor y dylid creu Swyddfa Gymreig ac Ysgrifennydd Gwladol i Cymru yn gynnar ym 1957 ond nid oeddhwn yn mynd yn ddigon pell i gadeirydd y Cyngor, Huw T. Edwards. Ymddiswyddodd Edwards a phedwar aelod arall o Gyngor Cymru ym 1958 dros yr hyn a ddisgrifiodd Edwards fel "Whitehallism." Yn ddiweddarach y flwyddyn honno ymunodd Edwards â Plaid Cymru. Collodd y Cyngor ddylanwad , ond cadwodd statws ffurfiol tan 1966[7].

Sefydlodd Swyddfa Gymreig ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1964 gan Lywodraeth Llafur Harold Wilson, gyda James Griffiths yn cael ei benodi i'r swydd[8].

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Davies, John, 1938- (2007). A history of Wales (arg. Rev. ed). London: Penguin. ISBN 0-14-028475-3. OCLC 82452313.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  2. 2.0 2.1 Archives, The National. "The Discovery Service". discovery.nationalarchives.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-07.
  3. "COUNCIL FOR WALES (MEMBERSHIP) (Hansard, 26 April 1949)". api.parliament.uk. Cyrchwyd 2020-05-07.
  4. "Council for Wales and Monmouthshire Records, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2020-05-07.
  5. "WALES (COUNCIL) (Hansard, 20 January 1949)". api.parliament.uk. Cyrchwyd 2020-05-07.
  6. Jenkins, Gwyn. (2007). Prif weinidog answyddogol Cymru : cofiant Huw T. Edwards. Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. ISBN 978-0-86243-964-4. OCLC 236119437.
  7. Melding, David. (2009). Will Britain survive beyond 2020?. Cardiff: Institute of Welsh Affairs. ISBN 978-1-904773-43-6. OCLC 437082253.
  8. "copi archif". www.webarchive.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-14. Cyrchwyd 2020-05-07.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)