Cyngor Cymuned yw'r cyngor sy'n gyfrifol am gymuned yng Nghymru. Mae'n ffurfio'r haen isaf o lywodraeth leol. Cynrychiolir cynghorau cymuned a thref Cymru gan y corff Un Llais Cymru, a sefydlwyd yn 2004.

Hyd 1974, rhennid Cymru yn blwyfi sifil ar bwrpas llywodraeth leol. Roedd yn rhain wedi eu seilio yn fras ar y plwyfi eglwysig. Dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 diddymwyd y plwyfi sifil yng Nghymru (adran 20 (6)), ac yn eu lle, rhannwyd y wlad yn 869 o gymunedau (adran 27 o'r Ddeddf).

Gall pob cymuned gael Cyngor Cymuned. Gall Cyngor Cymuned ei alw ei hun yn Gyngor Tref neu'n Gyngor Dinas lle mae hyn yn addas; mae dwy gymuned yn ddinasoedd ar hyn o bryd: Tyddewi a Bangor. Rhennir dinasoedd mwy, megis Caerdydd, yn nifer o gymunedau. Fel rheol, gelwir arweinydd Cyngor Dinas neu Gyngor Tref yn Faer.

Nid oes rhaid i gymuned fod a Chyngor Cymuned; mae poblogaeth rhai cymunedau yn rhy fach i gynnal cyngor. Dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 gall cymuned ofyn i'r cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol berthnasol am gael ei grwpio gyda chymunedau eraill er mwyn dod dan un cyngor cymuned ar y cyd, cyn belled a bod y cymunedau i gyd yn yr un sir neu fwrdeistref sirol.

Ceir Cynghorau Cymuned yn yr Alban hefyd, er bod eu pwerau ychydig yn llai na phwerau Cynghorau Cymuned yng Nghymru.

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu