Corff rhyngwladol o 46 gwlad yw Cyngor Ewrop. Mae aelodaeth yn agored i unrhyw wladwriaeth Ewropeaidd sydd yn barod i dderbyn egwyddor cyfraith a threfn, sicrhau iawnderau dynol sylfaenol a rhyddid ei dinasyddion. Lleolir y pencadlys yn ninas Strasbourg, Ffrainc.

Cyngor Ewrop
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhynglywodraethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu5 Mai 1949 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEuropean Commission against Racism and Intolerance, Albania, Andorra, Armenia, Awstria, Aserbaijan, Gwlad Belg, Bosnia a Hertsegofina, Bwlgaria, Croatia, Cyprus, tsiecia, Tsiecoslofacia, Denmarc, Estonia, Ffrainc, Georgia, yr Almaen, Gwlad Groeg, Hwngari, Gwlad yr Iâ, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal, Latfia, Liechtenstein, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Moldofa, Monaco, Montenegro, Yr Iseldiroedd, Gogledd Macedonia, Norwy, Gwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania, Rwsia, San Marino, Saarland, Serbia, Serbia a Montenegro, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Sweden, Y Swistir, Twrci, Wcráin, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadSecretary General of the Council of Europe Edit this on Wikidata
Isgwmni/auLlys Hawliau Dynol Ewrop, European Commission for the Efficiency of Justice Edit this on Wikidata
PencadlysPalace of Europe Edit this on Wikidata
GwladwriaethFfrainc Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.coe.int Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'n bwysig peidio cymysgu Cyngor Ewrop â Chyngor yr Undeb Ewropeaidd neu â'r Cyngor Ewropeaidd, gan fod Cyngor Ewrop yn gorff cwbl gwahanol a chanddo ddim i'w wneud a'r Undeb Ewropeaidd.

Aelodaeth golygu

Sefydlwyd ar 5 Mai 1949 gan Gwlad Belg, Denmarc, Ffrainc, Iwerddon, Yr Eidal, Lwcsembwrg, Yr Iseldiroedd, Norwy, Sweden a'r Deyrnas Unedig. Daeth Gwlad Groeg a Twrci yn aelodau tri mis wedyn, a Gwlad yr Ia a'r Almaen y flwyddyn ganlynol. Erbyn hyn mae 47 aelod-wladwriaeth; Montenegro oedd yr un diweddaraf i ymuno.

Mae Erthygl 4 o Statudau Cyngor Ewrop yn datgan bod aelodaeth yn agored i unrhyw wladwriaeth Ewropeaidd. Dim ond Belarws sy ddim yn aelod bellach.

 
     Gwledydd gwreiddiol     Aelodau a ymunodd wedyn
Baner Gwladwriaeth Dyddiad ymuno
  Gwlad Belg Sefydlydd
  Denmarc Sefydlydd
  Ffrainc Sefydlydd
  Gweriniaeth Iwerddon Sefydlydd
  Yr Eidal Sefydlydd
  Lwcsembwrg Sefydlydd
  Yr Iseldiroedd Sefydlydd
  Norwy Sefydlydd
  Sweden Sefydlydd
  Y Deyrnas Unedig Sefydlydd
  Gwlad Groega 9 Awst 1949
  Twrcia 9 Awst 1949
  Gwlad yr Iâ 7 Mawrth 1950
  Yr Almaenb 13 Gorffennaf 1950
  Awstria 16 Ebrill 1956
  Cyprus 24 Mai 1961
  Y Swistir 6 Mai 1963
  Malta 29 Ebrill 1965
  Portiwgal 22 Medi 1976
  Sbaen 24 Tachwedd 1977
  Liechtenstein 23 Tachwedd 1978
  San Marino 16 Tachwedd 1988
  Y Ffindir 5 May 1989
  Hwngari 6 Tachwedd 1990
  Gwlad Pwyl 26 Tachwedd 1991
  Bwlgaria 7 Mai 1992
  Estonia 14 Mai 1993
  Lithwania 14 Mai 1993
  Slofenia 14 Mai 1993
  Y Weriniaeth Tsiec 30 Mehefin 1993
  Slofacia 30 Mehefin 1993
  Rwmania 7 Hydref 1993
  Andorra 10 Tachwedd 1994
  Latfia 10 Chwefror 1995
  Albania 13 Gorffennaf 1995
  Moldofa 13 Gorffennaf 1995
  Macedoniac 9 Tachwedd 1995
  Wcrain 9 Tachwedd 1995
  Rwsia 28 Chwefror 1996
  Croatia 6 Tachwedd 1996
  Georgia 27 Ebrill 1999
  Armenia 25 Ionawr 2001
  Aserbaijan 25 Ionawr 2001
  Bosnia-Hertsegofina 24 Ebrill 2002
  Serbiad 3 Ebrill 2003
  Monaco 5 Hydref 2004
  Montenegro 11 Mai 2007

Ymgeisyddion golygu

Statws Gwesteuon Arbennig oedd gan senedd Belarws Medi 1992 tan Ionawr 1997, ond ers etholiadau 'annheg' a phroblemau ym 1996 maent yn 'suspended'.

Derbynnwyd cais Casachstan am Statws Gwesteuon Arbennig yn 1999. Penderfynnwyd eu bod yn rhan o Ewrop. Llofnodwyd Casachstan cytundeb i cydymffurfio a'r Cyngor.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.