Cyngor Cernyw

(Ailgyfeiriad o Cyngor Sir Cernyw)

Cyngor Cernyw (Cernyweg: Konsel Kernow) yw'r awdurdod unedol ar gyfer Cernyw yn y Deyrnas Unedig, heb gynnwys Ynysoedd Syllan, sydd gen gyngor ei hun. Ers etholiadau 2013, mae'n cael ei rhedeg gan glymblaid Annibynnol-Democratiaid Rhyddfrydol. Mae Cyngor Cernyw yn darparu ystod eang o wasanaethau i fwy na hanner miliwn o drigolion Cernyw. Mae'n gyfrifol am wasanaethau addysg, gwasanaethau cymdeithasol, casglu sbwriel, ffyrdd, cynllunio, ac yn y blaen.

Noder mai Cyngor Cernyw (Cornwall Counsil / Konsel Kernow) yw enw swyddogol yr uned a na ddefnyddir y gair 'sir' yn y teitl.