Cyngor Sir Dyfed oedd yr awdurdod llywodraeth leol a weinyddai sir Dyfed, ardal sy'n cynnwys heddiw Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yng ngorllewin a chanolbarth Cymru. Roedd yn bodoli rhwng 1974 a 1996. Diddymwyd y corff pan gyflwynwyd Deddf Llywodraeth Leol Cymru (1996). Yn ddiweddar mae nifer o sylwebwyr gwleidyddol wedi awgrymu y gall y corff gael ei ail-sefydlu yn sgîl creu Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda sy'n gwasanethu'r un ardaloedd â GIG Dyfed yn flaenorol. Yn 2007 roedd y boblogaeth yn 375,200.[1]

Cyngor Sir Dyfed
Motto: Rhyddid Gwerin Ffyniant Gwlad
Daearyddiaeth
Statws Cyngor Sir
Pencadlys Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Hanes
Tarddiad Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
Crëwyd 1974
Diddymwyd 1996
Ailwampio Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Sir Benfro, Cyngor Ceredigion
Arfais Cyngor Sir Dyfed
Israniadau
Math Dosbarth, Bwrdeistref
Unedau Cyngor Bwrdeistref Dinefwr, Cyngor Bwrdeistref Llanelli, Cyngor Dosbarth Caerfyrddin, Cyngor Dosbarth Ceredigion, Cyngor Dosbarth De Sir Benfro, Cyngor Dosbarth Preseli

Cronfa Pensiwn Dyfed sy'n gyfrifol am bensiynau holl weithwyr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Cyngor Sir Benfro a Chyngor Sir Ceredigion, gan gynnwys gweithwyr o'r gorffennol a gafodd eu cyflogu'n uniongyrchol gan Gyngor Sir Dyfed a'r holl cynghorau bwrdeistrefol yr ardal gan gynnwys, Cyngor Bwrdeistref Dinefwr, Cyngor Bwrdeistref Llanelli, Cyngor Dosbarth Caerfyrddin, Cyngor Dosbarth Ceredigion, Cyngor Dosbarth De Sir Benfro, a Chyngor Dosbarth Preseli.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Office for National Statistics – 2007". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-14. Cyrchwyd 2021-02-19.