Cynhyrchydd ffilm

Mae cynhyrchydd ffilmiau neu gyfresi teledu yn gyfrifol am sicrhau fod yr amgylchiadau'n addas er mwyn creu ffilm neu raglen deledu. Mae'r cynhyrchydd yn cychwyn ar y broses, yn cyd-lynnu, goruwchwylio a rheoli materion megis codi'r arian angenrheidiol, cyflogi gweithwyr allweddol a threfu ar gyfer y dosbarthwyr. Mae'r cynhyrchydd ynghlwm â phob rhan o'r broses creu ffilm neu raglen, o'r datblygiad i ddiweddglo y prosiect.

Yn ystod hanner gyntaf yr 20g, byddai gan y cynhyrchydd reolaeth greadigol o'r prosiect hefyd. Fodd bynnag, yn Unol Daleithiau America, wrth i system stiwdio Hollywood ddechrau gwanhau yn ystod y 1950au, dechreuodd y rheolaeth creadigol gael ei drosglwyddo i'r cyfarwyddwr.

Rhai cynhyrchwyr ffilm nodedig golygu