Cwmwd canoloesol yn Nheyrnas Powys, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, oedd Cynllaith. Yn yr Oesoedd Canol Diweddar adnabyddid gorllewin Cynllaith fel Cynllaith Owain. Mae'n gorwedd yn ardal Maldwyn, Powys.

Map braslun o brif israniadau Powys

Gorweddai'r cwmwd ar lethrau dwyreiniol mynyddoedd Y Berwyn. Cwmwd lled fynyddig oedd hwn, yn glytwaith o gymoedd, gyda'r tir gorau yn gorwedd yn y dwyrain a'r de. Llifa afon Ceiriog trwy'r cwmwd.

Ffiniai â chwmwd Nanheudwy i'r gogledd, a daeth y ddwy uned hyn yn rhan o Swydd y Waun yn yr Oesoedd Canol Diweddar. I'r gorllewin, ffiniai Cynllaith, fel Nanheudwy, ag Edeirnion, ac â chwmwd Mochnant Is Rhaeadr ym Mochnant i'r de. I'r dwyrain roedd ardaloedd Y Dre Wen a'r Deuparth yn Swydd Amwythig, ardal a fu gynt yn rhan o deyrnas Powys.

Prif ganolfan y cwmwd oedd Sycharth, cartref Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, a safle Llys Sycharth. Llosgwyd y llys gan y Saeson ym mlynyddoedd cynnar y gwrthryfel. Am ei fod ym meddiant Owain daethpwyd i alw rhan orllewinol y cwmwd yn Gynllaith Owain (gweler isod)

Pan dorrodd Powys yn ddau ddarn yn 1160, daeth Cynllaith yn rhan o dywysogaeth Powys Fadog. Yn nes ymlaen byddai'n rhan o arglwyddiaeth Swydd y Waun pan gafodd ei rannu yn Gynllaith Owain (y rhan ym meddiant disgynyddion brenhinoedd Powys) a Chynllaith yr Iarll (y rhan ddwyreiniol, ym meddiant arglwyddi'r Mers). Wedyn daeth yn rhan o Sir Drefaldwyn. Heddiw mae'n gorwedd yng ngogledd sir Powys.

Aelodau o linach Powys a gysylltir â Chynllaith golygu

Gweler hefyd golygu