Cynllun Morgenthau

cynllun (nas gwireddwyd yn llawn) gan Morgethau o'r UDA am beth i wneud gyda'r Almaen wedi ennill RhB2.

Roedd Cynllun Morgenthau ("The Morgenthau Plan") yn gynllun arfaethiedig ar gyfer dyfodol yr Almaen wedi'r Ail Ryfel Byd a ddatblygwyd gan Henry Morgenthau, Ysgrifennydd Trysorlys Unol Daleithiau America.

Cynllun Morgenthau
Enghraifft o'r canlynolcynnig a fwriedir, memorandum Edit this on Wikidata
Rhan oaftermath of World War II, Allied plans for German industry after World War II Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluAwst 1944 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysdemilitarisation, denazification, Allied plans for German industry after World War II Edit this on Wikidata
OlynyddCynllun Marshall Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tiriogaeth a gollwyd gan yr Almaen (Saarland i Ffrainc, Silesia Uchaf i Wlad Pwyl, Dwyrain Prwsia, rhannu rhwng Gwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd
Tiriogaeth a gollwyd gan yr Almaen (Saarland i Ffrainc, Silesia Uchaf i Wlad Pwyl, Dwyrain Prwsia, rhannu rhwng Gwlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd

Cyflwynwyd cynllun Morgenthau ar 9 Medi 1944 yn ystod ail gynhadledd Prydain-America yn Ail Gynhadledd Québec (11-16 Medi 1944) ac fe’i cefnogwyd gan Franklin D. Roosevelt, Arlywydd yr Unol Daleithiau a Winston Churchill, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Fe'i cynigwyr gyntaf gan Morgenthau mewn memorandwm o'r enw, Suggested Post-Surrender Program for Germany. Fe'i beirniadwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol UDA, Cordell Hull, a Gweinidog Tramor Prydain, Anthony Eden. Cafodd dderbyniad gwael yn f arn gyhoeddus a chylchoedd busnes America hefyd. Ar ddiwedd ym mis Tachwedd 1944 cafodd ei wrthod gan Roosevelt.

Argymhellion Cynllun golygu

  1. rhaniad yr Almaen yn dair rhan - De, Gogledd, a Pharth Ryngwladol
  2. roedd rhan ogleddol Dwyrain Prwsia i gael ei chysylltu â'r Undeb Sofietaidd, y rhan ddeheuol, Silesia Uchaf a rhan o Silesia Isaf i Wlad Pwyl, a'r ardal dros afon Rhein a Moselle i Ffrainc
  3. dadfilwro yn llwyr,
  4. datgymalu y diwydiannau trwm
  5. creu gwladwriaeth amaethyddol a bugeiliol
  6. meddiannaeth y gwledydd sy'n dod i'r amlwg gan luoedd y Cynghreiriaid

Beirniadwyd y cynllun hwn yn eang, yn enwedig gan gabinet Prydain, o ystyried effeithiau trychinebus niwtraleiddio'r Almaen gan Gytundeb Versailles yn 1919.

Yn raddol, adolygodd Roosevelt ei farn ar y cynllun hwn, a ddaeth i ben ym mis Medi 1946 [1][2] a'i ddiystyru'n ffurfiol ym mis Gorffennaf 1947 wedi Cytundeb Paris ac wrth i linellau y Rhyfel Oer rhwng y gorllewin (UDA, Prydain, Ffrainc) a'r Undeb Sofietaidd.[3]

Dadleuol golygu

Yn 1947, ysgrifennodd Herbert Hoover: "There is the illusion that the New Germany left after the annexations can be reduced to a 'pastoral state'. It cannot be done unless we exterminate or move 25,000,000 people out of it." [4]

Pan gyhoeddwyd Cynllun Morgenthau gan wasg yr UD ym mis Medi 1944, atafaelwyd arno ar unwaith gan lywodraeth Almaeneg Natsïaidd, a'i ddefnyddio fel rhan o ymdrechion propaganda yn saith mis olaf y rhyfel yn Ewrop a anelodd i argyhoeddi Almaenwyr i ymladd ymlaen.

Ym 1951, rhoddwyd y gorau i ddatgymalu ffatrïoedd a therfynau cynhyrchu llym.[5] O'r flwyddyn 1947, strategaeth polisïau'r UDA oedd ailgodi "(a) stable and productive Germany" a dilynwyd hyn yn fuan gyda Chynllun Marshall.[6][7]

Cynadleddau Pwysig Eraill golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Script error: No such module "Biblio".
  2. James Francis Byrnes and U.S. Policy towards Germany 1945-1947 Archifwyd 2008-07-05 yn y Peiriant Wayback. Deutsch-Amerikanische Zentrum / James-F.-Byrnes-Institute.V
  3. Script error: No such module "Biblio".
  4. quoted by John Dietrich, The Morgenthau Plan: Soviet Influence on Amer Postwar Policy, Algora Publishing , 2007, p. 117
  5. Script error: No such module "Biblio"..
  6. Beschloss, tt. 169–170.
  7. Greiner 1995, tt. 327–328.