Yn economeg, nwydd sydd yn hollol neu yn sylweddol unffunud yw cynwydd.[1] Gellir cyfnewid enghreifftiau o gynwydd heb eu bod yn wahanol i'w gilydd, ac felly mae'r farchnad yn eu trin yn gywerth heb ystyried pwy sydd wedi eu cynhyrchu. Nwyddau crai neu gynnyrch amaethyddol ydy'r mwyafrif o gynwyddau, gan gynnwys mwynau a chnydau. Gall cynwydd hefyd fod yn wneuthuryn sydd mor gyffredin, rhad, neu syml ei fod bron yn amhosib i wahaniaethu rhwng fersiynau o'r cynnyrch hwnnw a wneid gan weithgynhyrchwyr ar wahân, er enghraifft sglodion cof neu gyffuriau generig.

Tri math o farchnad cynwyddau sydd: y farchnad arian parod, y flaen farchnad, a'r farchnad flaendrafodion. Cânt eu prynu a'u gwerthu ar y pryd yn y farchnad arian parod, a gellir cytuno ar bris, nifer neu faint, ac amodau eraill y trafodyn ar unwaith. Yn y flaen farchnad caiff pryniannau a gwerthiannau cynwyddau eu trefnu o flaen llaw ar gyfer dyddiad penodol, heb yr angen i ddisgwyl am amodau'r farchnad ar y dyddiad hwnnw. Gelwir y farchnad arian parod a'r flaen farchnad yn "wir farchnadau" gan eu bod yn masnachu cynwyddau go iawn, yn wahanol i'r farchnad flaendrafodion sydd yn prynu ac yn gwerthu contractau sydd yn tybio ar brisoedd cynwyddau o flaen llaw.

Cyfeiriadau golygu

  1. "cynwydd" yn Y Termiadur Addysg. Adalwyd ar 10 Mai 2020.
  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.