Roedd Cyril Flower, Barwn 1af Battersea (30 Awst 184327 Tachwedd 1907) yn noddwr y celfyddydau ac yn wleidydd Rhyddfrydol, a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Aberhonddu a Luton [1]

Cyril Flower
Ganwyd30 Awst 1843 Edit this on Wikidata
Tooting Edit this on Wikidata
Bu farw27 Tachwedd 1907 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadPhilip William Flower Edit this on Wikidata
MamMary Flower Edit this on Wikidata
PriodConstance Flower Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Flower yn Streatham, Surrey, yn fab i Philip William Flower; marsiandwr a datblygwr eiddo cefnog yn Llundain a Sydney; a Mary, merch Jonathan Flower ei wraig.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt, a chafodd ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1870

Priododd Arglwydd Battersea a Constance, merch Syr Anthony de Rothschild, Barwnig 1af, ym 1877. Roedd y briodas yn di blant. Roedd sïon bod Flower yn ffafrio dynion, a honnir bod Edward VII wedi atal erlyniad yn ei erbyn am weithgaredd gwrywgydiol rhag mynd i'r llys [2].

Gyrfa golygu

Dilynodd Flower ei dad i'r busnes datblygu eiddo. Fe fu'n gyfrifol am ddatblygu Battersea Park Town, Ffordd Wandsworth a Prince of Wales Drive yn Llundain.

Roedd Flower hefyd yn gasglwr mawr ac yn noddwr o gelf. Bu'n noddi'r artistiaid James McNeill Whistler a Cecil Gordon Lawson ac roedd yn gyfeillgar â'r set Gyn-Raffaëlaidd; ymysg y darluniau yn ei gasgliad roedd lluniau gan artistiaid amrywiol gan gynnwys gwaith Burne-Jones, Botticelli, Leonardo da Vinci, Rubens, Sandys a Bassano. Roedd hefyd yn ymddiddori yng nghelf ffotograffiaeth gan gael arddangosfa o'i luniau yn Fienna [3].

Gyrfa Wleidyddol golygu

Ym 1880 safodd Flower fel ymgeisydd Seneddol Rhyddfrydol yn etholaeth Aberhonddu, gan lwyddo i drechu'r AS Ceidwadol blaenorol James Price William Gwynne-Holford [4]. Daliodd ei afael ar y sedd hyd 1885 pryd gafodd yr etholaeth ei ddiddymu [5]. Bu wedyn yn cynrychioli etholaeth Luton [6] hyd 1892 pryd godwyd ef i'r bendefigaeth fel Barwn Battersea, o Battersea yn Sir Llundain ac o Overstrand yn Sir Norfolk.[7] Gwasanaethodd am gyfnod byr fel Arglwydd Iau'r Trysorlys o fis Chwefror i Orffennaf 1886 yn Nhrydedd weinyddiaeth Ryddfrydol William Ewart Gladstone a gwasanaethodd fel un o chwipiaid y Blaid Ryddfrydol o 1886 hyd 1892.

Marwolaeth golygu

Bu farw o niwmonia yn Ryde, Ynys Wyth ym mis Tachwedd 1907 yn 64 mlwydd oed, gan ei fod yn di blant bu farw'r farwniaeth gydag ef. Bu farw'r Arglwyddes Battersea ym 1931

Cyfeiriadau golygu

  1. "Death of Lord Battersea - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1907-11-30. Cyrchwyd 2015-12-01.
  2. Cook, Matt (2008). London and the Culture of Homosexuality, 1885-1914. London: Cambridge University Press. t. 68. ISBN 9780521089807.
  3. "Lord Battersea Dead - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1907-11-27. Cyrchwyd 2015-12-01.
  4. "BWRDEISDREFI ABERHONDDU - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1880-04-08. Cyrchwyd 2015-12-01.
  5. "PRESENTATION TO MR CYRIL FLOWER MP AT BRECON - The Western Mail". Abel Nadin. 1885-10-19. Cyrchwyd 2015-12-01.
  6. "MR CYRIL FLOWER MP AT LUTON - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1885-01-17. Cyrchwyd 2015-12-01.
  7. "A PEERAGE FOR MR CYRIL FLOWER - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-08-20. Cyrchwyd 2015-12-01.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
James Price William Gwynne-Holford
Aelod Seneddol Aberhonddu
18801885
Olynydd:
diddymu'r etholaeth