Cystennin II

ymerawdwr Rhufeinig (316-340)

Flavius Claudius Constantinus, a adnabyddir fel Cystennin II (c. 316Ebrill 340), oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 9 Medi 337 a'i farwolaeth.

Cystennin II
GanwydChwefror 316 Edit this on Wikidata
Arles Edit this on Wikidata
Bu farwEbrill 340 Edit this on Wikidata
Aquileia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol, yr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig Edit this on Wikidata
TadCystennin I Edit this on Wikidata
MamFausta Edit this on Wikidata
Llinachllinach Cystennin Edit this on Wikidata

Cystennin oedd ail fab Cystennin I, a'r mab hynaf o'i briodas a Fausta. Ganed ef yn Arles, a chafodd ei fagu fel Cristion.

Ar 1 Mawrth 317 cyhoeddwyd ef yn "Gesar", ac yn 323, yn saith oed, cymerodd ran yn ymgyrch ei dad yn erbyn y Sarmatiaid. Yn ddeg oed cafodd ei benodi'n llywodraethwr Gâl. Cymerodd ran fel pennaeth y gwersyll yn ymgyrch ei dad yn erbyn y Gothiaid yn 332.

Wedi marwolaeth ei dad yn 337, daeth Cystennin II yn ymerawdwr ynghyd â'i ddau frawd, Constantius II a Constans. Rhannwyd yr ymerodraeth rhwng y tri brawd yn Panonia ym mis Medi yr un flwyddyn, a chafodd Cystennin Gâl, Prydain a Hispania.

Bu gan Cystennin ran yn nadleuon crefyddol y dydd, gan amddiffyn uniongrededd Cyngor Nicea a gwrthwynebu Ariaeth. Rhyddhaodd Athanasius o Alexandria, prif amddiffynnydd uniongrededd, a gadael iddo ddychwelyd i'w esgobaeth. Roedd ei frawd Constantius II, ar y llaw arall, yn cefnogi yr Ariaid.

Ar y cychwyn yr oedd Cystennin yn gyfrifol am ofalu am fuddiannau ei frawd iau, Constans, oedd wedi derbyn Italia, Affrica ac Iliria. Pan gyrhaeddodd Constans i oed yn 340, gwrthododd Cystennin drosglwyddo grym iddo. Gorchfygwyd Cystennin gan Constans ym mrwydr Aquileya yn yr Eidal, a lladdwyd Cystennin yn y frwydr.

Rhagflaenydd:
Cystennin I
Ymerawdwr Rhufain
9 Medi 337Ebrill 340
gyda Constantius II a Constans
Olynydd:
Constantius II a Constans