Cytundeb München

cytundeb unochrog yn trosglwyddo ardaloedd Almaeneg eu hiaith i'r Almaen Natsiaidd Hitler oddi ar Tsiecoslofacia

Arwyddwyd Cytundeb München yn ninas München yn ne yr Almaen yn oriau cynnar 30 Medi 1938 (ond wedi ei dyddio 29 Medi), rhwng Adolf Hitler, Canghellor yr Almaen a'i gyngrheiriad Benito Mussolini, arweinydd yr Eidal, a Neville Chamberlain, prif weinidog y Deyrnas Unedig a Raymond Daladier, prif weinidog Ffrainc.

Cytundeb München
Enghraifft o'r canlynolcession, cytundeb, cytundeb Edit this on Wikidata
Dyddiad29 Medi 1938 Edit this on Wikidata
Rhan oDyhuddiad Edit this on Wikidata
IaithTsieceg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi30 Medi 1939 Edit this on Wikidata
LleoliadFührerbau Edit this on Wikidata
Prif bwncAdolf Hitler, Édouard Daladier, Benito Mussolini, Neville Chamberlain Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Chamberlain, Daladier, Hitler a Mussolini yng Nghynhadledd München

Roedd Hitler yn hawlio tiriogaeth y Sudetenland, ardal lle roedd mwyafrif y trigolion yn Almaenwyr ethnig, oddi ar Tsiecoslofacia. Gwrthwynebid hyn yn gryf gan lywodraeth Tsiecoslofacia, a datganodd yr Undeb Sofietaidd eu bod yn barod i roi cefnogaeth filwrol i'r Tsieciaid, ond dim ond os byddai Prydain a Ffrainc yn ymuno â hwy. Yng Nghynhadledd München, cytunodd Prydain a Ffrainc i roi'r Sudetenland i Hitler, gan osgoi rhyfel am y tro.

Rhaniad Tsiecoslafacia, 1938

Ymraniadau pellach Tsiecoslofacia golygu

Yn sgil llwyddiant trosglwyddo tiroedd Almaenwyr ethnig i'r Reich, bu pwysau o du Miklós Horthy arweinydd Hwngari i an-ennill tiroedd Hwngaraidd a gollwyd yng Nghytundeb Trianon wedi'r Rhyfel Mawr. Er mwyn osgoi rhyfel lleol, cynulliodd powerau'r Echel (Yr Almaen a'r Eidal) Gyflafareddiadau Fienna. Yn sgil hyn dioddefodd Gwerinaieth Tsiecoslofacia gan ymraniad pellach yn Dyfarniad Gyntaf Fienna ar 2 Tachwedd 1939 pan roddwyd tiroedd Slofacia oedd yn ffinio Hwngari i Hwngari.

Yn 1939, ymosododd Hitler ar Wlad Pwyl, a'r tro hwn cyhoeddodd Ffrainc a Phrydain ryfel ar yr Almaen, gan ddechrau'r Ail Ryfel Byd.

Gweler hefyd golygu