Cytundeb Maastricht

Arwyddwyd Cytundeb Maastricht (ei henw iawn yw Cytundeb yr Undeb Ewropeaidd) ym Maastricht gan aelod-wladwriaethau y Cymuned Ewropeaidd ym 1992 i greu yr Undeb Ewropeaidd ar ôl trafodaethau ar gyfer undeb ariannol ac undeb gwleidyddiol.

Cytundeb Maastricht
Enghraifft o'r canlynolCytundeb gan yr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Dyddiad7 Chwefror 1992 Edit this on Wikidata
IaithDaneg, Almaeneg, Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Gwyddeleg, Eidaleg, Iseldireg, Portiwgaleg Edit this on Wikidata
LleoliadMaastricht Edit this on Wikidata
Prif bwncThree pillars of the European Union Edit this on Wikidata
GwladwriaethYr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
RhanbarthLimburg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

O ganlyniad i'r cytundeb cyflwynwyd arian sengl yr UE, yr Ewro a strwythur tair colofn yr Undeb:

  • Colofn y gymuned
  • Colofn polisi tramor a diogelwch cyffredin (colofn CFSP) a
  • Colofn cyfiawnder a materion mewnol (colofn JHA).

Sylfaen y golofn CFSP yw cydweithrediad gwleidyddiol Ewropeaidd (EPC). Colofn JHA sy'n golygu cydweithrediad ar gyfer atal tor-cyfraith, cyfiawnder troseddol, cyfiawnder sifil, noddfa a mewnfudiad.

Roedd y Gymuned Ewropeaidd yn canolbwyntio ar faterion economaidd a masnachol. Roedd y Comisiwn Ewropeaidd a'r Llys Cyfiawnder Ewrop yn annibynnol o lywodraethau'r aelod-wladwriaethau ac yn nerthol iawn. Etholwyd Senedd Ewrop gan drigolion y Gymuned Ewropeaidd. Roedd llywodraethau'r aelod-gwladwriaethau yn rhannu pŵer ac ers canol y 1980au yn bennaf drwy bleidlais fwyafrifol a thrwy hynny roedd sefydliadau rhyngwladol yn fwy nerthol na llywodraethau cenedlaethol.

Roedd dadl am gyfrifoldebau ar gyfer polisi tramor, milwrol a materion troseddol: roedd rhai eisiau eu trosglwyddo i'r Gymuned Ewropeaidd, ac eraill eisiau i'r llywodraethau cenedlaethol fod yn gyfrifol amdanynt. Fel cyfaddawd cyflwynwyd strwythur tair colofn er mwyn gwahanu'r cyfrifoldebau economaidd a thraddodiadol (megis colofn y Gymuned) i'r materion newydd (sef colofn CFSP a cholofn JHA).

Arwyddwyd Cytundeb Maastricht ar 7 Chwefror, 1992 ym Maastricht yn yr Iseldiroedd, lle bu trafodaethau terfynol ym mis Rhagfyr 1991. Daeth i rym ar 1 Tachwedd, 1993 a cafodd ei diwygio sawl gwaith ers hynny.

Cytundebau, strwythur a hanes yr Undeb Ewropeaidd
1951/1952 1957/1958 1965/1967 1992/1993 1997/1999 2001/2003 2007/2009 (?)
U N D E B   E W R O P E A I D D   ( U E )
Cymuned Ewropeaidd Glo a Dur (CEGD)
Cymuned Economaidd Ewropeaidd (CEE) Cymuned Ewropeaidd (CE)
Cymuned Ewropeaidd Ynni Atomig (Euratom)
Tair Cymuned Ewropeaidd: CEGD, CEE ac Euratom Cyfiawnder a Materion Cartref  
Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol
mewn Materion Trosedd
Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin (PTDC)
Cytundeb Paris Cytundebau Rhufain Cytundeb Cyfuno Cytundeb Maastricht Cytundeb Amsterdam Cytundeb Nice Cytundeb Lisbon

"Tri philer yr Undeb Ewropeaidd"
(y Cymunedau Ewropeaidd, y PTDC, a Heddlu a Chydweithrediad Cyfreithiol)