Arwyddwyd Cytundeb Pipton ar 22 Mehefin 1265, yn ystod Ail Ryfel y Barwniaid, i sefydlu cynghrair rhwng y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a'r barwn grymus Simon de Montfort. Enwir y cytundeb ar ôl Pipton, Powys.

Cytundeb Pipton
Enghraifft o'r canlynolcytundeb Edit this on Wikidata
Dyddiad22 Mehefin 1265 Edit this on Wikidata

Daeth y cytundeb i fod yn sgîl buddugoliaeth ysgubol Simon de Montfort ar Harri III o Loegr ym Mrwydr Lewes ym 1264. Daliwyd brenin Lloegr a'i fab y Tywysog Edward. Dechreuodd Llywelyn gyfres o darfodaethau gyda de Montfort, ac ym 1265 cynigiodd iddo'r swm o 30,000 marc yn gyfnewid am heddwch parhaol, gyda thermau'r heddwch yn cadarnhau hawl Llywelyn i reoli Cymru.

Seliwyd y trafodaethau gyda'r cytundeb rhwng Llywelyn a de Montford, ond gellid dadlau fod y termau ffafriol a gafodd Llywelyn yn dangos fod sefyllfa de Montfort yn gwanhau mewn gwirionedd. Mae'r hanesydd J. Beverley Smith yn dadlau mae "dealltwriaeth" yn hytrach na chytundeb ffurfiol oedd Cytundeb Pipton, ond serch hynny rhoddodd Llywelyn a de Montford eu seliau ar gyfres o ddogfennau yn gosod allan yr amodau rhyngddynt.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. J. Beverley Smith, Llywelyn ap Gruffudd Tywysog Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988), tt.144, 147