Cytundeb Schengen

Mae Cytundeb Schengen yn caniatáu symud o un wlad Ewropeaidd i'r llall heb wirio pasbortau. Fe'i henwir ar ôl y pentref o'r un enw yn Lwcsembwrg lle y llofnodwyd y cytundeb gwreiddiol ym 1985.

Cytundeb Schengen
Enghraifft o'r canlynolcytundeb Edit this on Wikidata
Dyddiad14 Mehefin 1985 Edit this on Wikidata
Rhan oCytundeb Schengen Edit this on Wikidata
LleoliadSchengen Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
     Ardal Schengen

Mae 26 o wledydd yn Ewrop, yn cynnwys pedair nad ydynt yn yr UE, sydd wedi arwyddo Cytundeb Schengen. Nid yw’r DU yn aelod llawn o’r cytundeb hwn, sy’n golygu y bydd angen i chi ddangos eich pasbort wrth fynd i mewn i ardal y Cytundeb Schengen. Unwaith yr ydych chi yn Ardal Schengen rydych yn rhydd i deithio o un wlad i’r llall heb wiriadau ar eich pasbort na chael eich atal wrth y tollau.

Aelodau golygu

Pob un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd heblaw:

a'r Gwledydd isod:

Un effaith yn hyn oll oedd ail-agor ffiniau a chaniatáu cymunedau a rannwyd ar ôl cwymp Awstria-Hwngari, Ymerodraeth yr Almaen ac Ymerodraeth Rwsia ym 1918 i ail-gysylltu. Enghraifft o hyn oedd pentref Slovenské Nové Mesto yn Slofacia, lle y mae'r orsaf a'r rheilffordd, a'r ddinas Hwngaraidd Sátoraljaújhely, yr oedd Slovenské Nové Mesto yn faesdref iddi.

Cyfeiriadau golygu