Daeargrynfeydd Kamchatka

Roedd tri daeargryn a ddigwyddodd oddi ar arfordir  Penrhyn Kamchatka yn nwyrain pell Rwsia yn 1737, yn 1923 ac yn 1952, yn ddaeargrynfeydd eithafol a achosodd tsunamis. Digwyddent lle roedd  Plât y Môr Tawel yn islithro o dan y Blât Okhotsk  at Ffôs Kuril-Kamchatka. Dyfnder y ffôs at bwynt y daeargrynfeydd oedd 7,000–7,500 m. Gorweddai gogledd Kamchatka ym mhen gorllewinol y  ffawt Bering, rhwng Plât y Môr Tawel  a Phlât Gogledd America,[1] neu blât Bering[2] Mae llawer mwy o ddaeargrynfeydd a tsunamis yn tarddu o Kamchatka, y mwyaf diweddar oedd yn  naeargryn Kamchatka 1997 gyda tswnami'n tarddu ger Penrhyn Kronotsky.

Delwedd o ddaeargrynfeydd a gofnodwyd yn, ac o amgylch Rwsia ers 1900. Noder fod y rhan fwyaf o'r seismigedd hyn yn ardal Kamchatka.

Daeargryn 1737  golygu

Lleoliad uwchganolbwynt daeargryn 1737 oedd 52°30′N 159°30′E / 52.5°N 159.5°E / 52.5; 159.5. Digwyddodd y ddaeargryn ar ddyfnder o 40 km. Amcangyfrifir mai maint y ddaeargryn oedd 8.3 Ms (9.0 Mw).[3]

Daeargrynfeydd 1923  golygu

Ar Chwefror 4ydd, 1923, amcangyfrifir i ddaeargryn maint 8.3–8.5 Mw  gyda lleoliad yn fras o 54°00′N 161°00′E / 54.0°N 161.0°E / 54.0; 161.0 sbarduno  tsunami o 8 medr o uchder a  achosodd cryn ddifrod yn Kamchatka, gan ladd nifer o bobl.[4][5] Roedd yr un tsunami, pan gyrrhaeddodd  Ynysoedd Hawai'i yn dal i fod yn 6 medr o uchder, a achosodd o leiaf un marwolaeth. Roedd daeargryn arall ym mis Ebrill 1923, a achosodd tsunami uchel yn lleol uchel  ger Ust' Kamchatsk, a adawodd dyddodion a astudwyd gan Minoura ac eraill.[6]

Daeargryn 1952  golygu

 Tarodd y brif ddaeargryn am 16:58 GMT (04:58 amser lleol) ar y 4ydd o Dachwedd, 1952. Yn wreiddiol nodwyd y ddaeargryn yn faint o 8.2Mw, ond mewn blynyddoedd yn ddiweddarach fe'i hail ddynodwyd yn 9.0 Mw .[7] Yn y tsunami mawr a ddilynnodd y ddaeargryn hon,[8] achoswyd dinistr a marwolaethau o amgylch penrhyn Kamchatka ac Ynysoedd Kuril. Fe darwyd Hawai'i hefyd, gydag amcangyfrif o ddifrod hyd at US$1 miliwn a cholledion da byw, ond ni chofnodwyd unryw anafiadau i bobl. Ni adroddwyd unrhyw anafiadau na difrod yn Siapan, a chyrrhaeddodd y tsunami cyn belled a glannau  Alaska, Chile a Seland Newydd.[9]

Roedd canolbwynt (hypocentre) y ddaeargryn wedi ei lleoli yn 52°45′N 159°30′E / 52.75°N 159.5°E / 52.75; 159.5Cyfesurynnau: 52°45′N 159°30′E / 52.75°N 159.5°E / 52.75; 159.5Cyfesurynnau: 52°45′N 159°30′E / 52.75°N 159.5°E / 52.75; 159.5 , ar ddyfnder o 30 km. Hyd  rhwyg y parth islithriad oedd 600 km. Cofnodwyd ôl-gryniadau mewn ardal o tua  247,000 km2, at ddyfnderoedd rhwng 40 a 60 km.[10][11] Mae dadansoddiad diweddar o ddosbarthiad rhediad y tsunami yn seiliedig ar gofnodion hanesyddol a daearegol  yn rhoi rhywfaint o syniad i ddosbarthiad llithriad y rhwyg.[12]

Gweler hefyd golygu

  • Daeargryn Kamchatka 1959
  • Daeargrynfeydd Kamchatka 2006 
  • Daeargryn eithafol

Cyfeiriadau golygu

  1. Kamchatka: Edge of the Plate Archifwyd 2007-08-07 yn y Peiriant Wayback. Error in webarchive template: Check |url= value. Empty.
  2. Pedoja, K., Bourgeois, J., Pinegina, T., Higman, B., 2006. Does Kamchatka belong to North America? An extruding Okhotsk block revealed by coastal neotectonics of the Ozernoi Peninsula, Kamchatka, Russia, Geology, v. 34(5), pp. 353–356.
  3. "Page on tsunami associated with event from West Coast and Alaska warning center". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-15. Cyrchwyd 2018-01-03.
  4. Tsunami Laboratory, Novosibirsk, Russia
  5. Largest Earthquakes in the World Since 1900 Archifwyd 2010-11-07 yn y Peiriant Wayback. Error in webarchive template: Check |url= value. Empty. United States Geological Survey
  6. Minoura, K., Gusiakov, V.G., Kurbatov, A., Takeuti, S., Svendsen, J.I., Bondevik, S., and Oda, T., 1996, Tsunami sedimentation associated with the 1923 Kamchatka earthquake. Sedimentary Geology, v. 106, pp. 145–154.
  7. Historic Earthquakes Archifwyd 2009-08-25 yn y Peiriant Wayback. Error in webarchive template: Check |url= value. Empty. It was also said to be magnitude 9.2.
  8. MacInnes,B.T., Weiss, R., Bourgeois, J., Pinegina, T.K., 2010. Slip distribution of the 1952 Kamchatka great earthquake based on near-field tsunami deposits and historical records. Bull. Seismol. Soc. America, v. 100(4), pp. 1695–1709.
  9. "Bureau of Meteorology: Tsunami Information". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-21. Cyrchwyd 2018-01-03.
  10. The aftershock sequence of the Kamchatka earthquake of November 4, 1952 - BÅTH and BENIOFF 48 (1): 1 - Bulletin of the Seismological Society of America
  11. Three Kamchatka earthquakes - STAUDER 50 (3): 347 - Bulletin of the Seismological Society of America
  12. MacInnes et al., 2010, see above.

Dolenni allanol golygu