Dafad Bryniau Ceri

.

Defaid Bryniau Ceri mewn sioe amaethyddol.
Defaid Bryniau Ceri: mamog ac oen ar fferm yn yr Iseldiroedd

Brîd o ddefaid dof yw defaid Bryniau Ceri (Saesneg: Kerry Hill), sy'n tarddu o ardal pentref Ceri ger Y Drenewydd, Powys. Mae gan defaid Bryniau Ceri batrwm lliw unigryw, gyda wynebau gwyn efo marciau duon o gwmpas y geg, y clustiau a'r llygaid. Mae eu gwlân yn wyn a cheir marciau duon ar y coesau.

Mae'r cyfeiriadau cynharaf at y brîd yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif. Erbyn heddiw mae diadellau o'r defaid i'w cael ar ffermydd yng ngwledydd Prydain, Iwerddon a'r Iseldiroedd ond nid yw'n frîd cyffredin. Oherwydd ei brinder bu'r defaid ar restr y Rare Breeds Survival Trust hyd 2006.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu