Dafydd Elis-Thomas

gwleidydd Cymreig

Gwleidydd Cymreig yw Dafydd Elis-Thomas, Barwn Elis-Thomas neu'r Arglwydd Elis-Thomas (ganwyd 18 Hydref 1946). Bu'n Aelod Seneddol dros Blaid Cymru yn San Steffan rhwng 1974 ac 1992 ac mae'n aelod o Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig. Daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi yn 1992.

Y Gwir Anrhydeddus
Arglwydd Elis-Thomas
Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon
Yn ei swydd
3 Tachwedd 2017 – 12 Mai 2021
Prif WeinidogCarwyn Jones
Mark Drakeford
Rhagflaenwyd ganKen Skates
Dilynwyd ganDawn Bowden
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn ei swydd
12 Mai 1999 – 11 Mai 2011
Rhagflaenwyd ganSwydd newydd
Dilynwyd ganRosemary Butler
Aelod o Senedd Cymru
dros Ddwyfor Meirionnydd
Meirionnydd Nant Conwy (1999–2007)
Yn ei swydd
6 Mai 1999 – 6 Mai 2021
Rhagflaenwyd ganSwydd newydd
Dilynwyd ganMabon ap Gwynfor
Mwyafrif8,868 (40.1%)
Cynrychiolaeth Senedd y DU
Aelod o Dŷ'r Arglwyddi
Lords Temporal
Deiliad
Cychwyn y swydd
18 Medi 1992
Arglwydd am Oes
Aelod Seneddol
dros Feirionnydd Nant Conwy
Yn ei swydd
9 Mehefin 1983 – 9 Ebrill 1992
Rhagflaenwyd ganCreuwyd yr etholaeth
Dilynwyd ganElfyn Llwyd
Aelod Seneddol
dros Feirionnydd
Yn ei swydd
28 Chwefror 1974 – 9 Mehefin 1983
Rhagflaenwyd ganWilliam Edwards
Dilynwyd ganDiddymwyd yr etholaeth
Manylion personol
GanwydDafydd Elis Thomas
(1946-10-18) 18 Hydref 1946 (77 oed)
Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin
Plaid wleidyddolAnnibynnol
Cysylltiadau gwleidyddol
arall
Plaid Cymru (1970–2016)
PriodElen Williams
Mair Parry Jones (presennol)
Plant3

Yn 1999 fe'i etholwyd yn Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd dros ran Plaid Cymru. Daeth yn Llefarydd cyntaf y Cynulliad o'r cychwyn yn 1999 hyd at 2011. Fe'i ail-etholwyd i'r Cynulliad yn Mai 2016 ond gadawodd Blaid Cymru ym mis Hydref gan aros fel aelod annibynnol hyd ei ymddeoliad cyn etholiad Mai 2021.[1]

Mae'n Llywydd Prifysgol Bangor ac yn Llywydd Anrhydeddus Searchlight Cymru yn ogystal.

Gyrfa golygu

Ganwyd Dafydd Elis-Thomas yng Nghaerfyrddin, yn fab i weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, a chafodd ei fagu yn Llandysul a Llanrwst.[2][3] Bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor rhwng 1964 – 1970 lle cafodd ddoethuriaeth mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Llenyddol.

Fe’i etholwyd yn Aelod Seneddol yn Chwefror 1974, yr un adeg â Dafydd Wigley, pan etholwyd dau aelod seneddol Plaid Cymru, ac yn dilyn etholiad mis Hydref, dri aelod seneddol am y tro cyntaf. Ar y cychwyn, ef oedd yr aelod ieuengaf yn y Tŷ Cyffredin. Gadawodd y lle hwnnw ym 1983 ac ym 1992 fe’i henwebwyd i fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi, fel y Barwn Elis-Thomas.

Yn Hydref 2016, pum mis ar ôl ei ail-ethol, penderfynodd adael Plaid Cymru oherwydd yn ei eiriau ef "nad oes unrhyw fwriad gan Plaid i chwarae rhan fwy cadarnhaol yn y Cynulliad". Dywedodd cangen Dwyfor Meirionnydd o Blaid Cymru y dylai galw is-etholiad ond dywedodd Elis-Thomas nad oedd ganddo unrhyw fwriad i wneud hynny.

Eisteddodd fel aelod annibynnol ers hynny. Ar 3 Tachwedd 2017 ymunodd â chabinet Llywodraeth Cymru gan gymryd swydd oedd wedi bod yn wag am flwyddyn sef y Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon.

Cyhoeddodd ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru 12 Ebrill 2020 nad oedd yn sefyll yn Etholiad nesaf y Senedd yn 2021. Ar ôl ystyriaeth hir dywedodd nad oedd yn cystadlu yn Dwyfor Meirionnydd yn 2021, ond dywedodd fod yna lawer o ffyrdd eraill o wasanaethu'r cymdeithas. Dywedodd ar y rhaglen "Mae 'na fwy i fod yn ddinesydd da na bod yn wleidydd etholedig am fwy na 40 mlynedd.

"Gan 'mod i yn cyrraedd, neu wedi cyrraedd, y cyfnod yna o gynrychioli Meirionydd beth bynnag - onid yn gwbl gyson ar hyd y cyfnod yna - am fwy na deugain mlynedd, fydda fo ddim yn gwneud llawer o synnwyr i sefyll etholiad gan wybod y byddwn i'n 78 erbyn diwedd y Cynulliad nesa."[4][5]

Personol golygu

Ym 1970 priododd Elen M. Williams ac mae ganddynt dri mab. Wedi ysgariad, bu'n bartner i Marjorie Thompson, cadeirydd CND. Ym 1993 priododd Mair Parry Jones ac maent yn byw yn Llandaf, Caerdydd pan fo'n gweithio yng Nghaerdydd ac ym Betws-y-Coed fel arall. Yng nghofnodion swyddogol Sant Steffan cyfeirir ato fel "Dafydd Elis Elis-Thomas".[6]

Proffesiynol golygu

Dyma rai o'i swyddi proffesiynol:

Llenor golygu

Mae'n awdur ar nifer o lyfrau gan gynnwys Cyfansoddi Ewrop - Helaethu Ffiniau.

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Edwards
Aelod Seneddol dros Feirionnydd
19741983
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Feirionnydd Nant Conwy
19831992
Olynydd:
Elfyn Llwyd
Rhagflaenydd:
Bernadette Devlin
Baban y Tŷ
1974
Olynydd:
Hélène Hayman
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
swydd newydd
Aelod Cynulliad dros Feirionnydd Nant Conwy
19992007
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Cynulliad dros Ddwyfor Meirionnydd
20072021
Olynydd:
Mabon ap Gwynfor
Seddi'r cynulliad
Rhagflaenydd:
Dim
Llywydd y Cynulliad
19992011
Olynydd:
Rosemary Butler
Swyddi gwleidyddol pleidiol
Rhagflaenydd:
Dafydd Wigley
Llywydd Plaid Cymru
19841991
Olynydd:
Dafydd Wigley

Cyfeiriadau golygu

  1. bbc.co.uk; adalwud 15 Hydref 2016.
  2. "Dafydd Elis-Thomas AM". BBC Democracy Live website. BBC. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-24. Cyrchwyd 3 Mai 2013.
  3. "Dafydd Elis-Thomas AM". Gwefan Plaid Cymru. Plaid Cymru. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-10. Cyrchwyd 3 Mai 2013.
  4. "Dafydd Elis-Thomas ddim am geisio adennill ei sedd". BBC Cymru Fyw. 2020-04-12. Cyrchwyd 2020-04-12.
  5. Rhaglen radio, Dewi Llwyd ar fore Sul. "Dim bwriad i ailsefyll - Aelod Cynulliad Dwyfor Meirionnydd". BBC Sounds - radio Cymru.
  6. London Gazette: no. 53056. p. 15921. 23 Medi 1992.
  7. Manylion bywgraffiadol ar wefan wleidyddol y BBC, 1 Medi 1999; Adalwyd 30 Rhagfyr 2015