Dafydd Hywel

actor o Gymro

Actor a chyfarwyddwr o Gymro oedd Dafydd Hywel (4 Rhagfyr 194523 Mawrth 2023)[1][2]. Cafodd yrfa hir mewn cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar lwyfan, ffilm a theledu.

Dafydd Hywel
GanwydDavid Hywel Evans Edit this on Wikidata
4 Rhagfyr 1945 Edit this on Wikidata
Garnant Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mawrth 2023 Edit this on Wikidata
Rhydaman Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llwyfan Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Magwyd David Hywel Evans yng Nglanaman ac yna Garnant, Cwm Aman. Wedi hynny bu'n byw yng Nghapel Hendre ger Rhydaman.[3]

Hyfforddodd fel athro mewn coleg yn Abertawe am fod ei dad eisiau iddo gael "job teidi". Ar ddiwedd yr 1960au fe'i ddewiswyd un o aelodau cyntaf Cwmni Theatr Cymru dan gyfarwyddiaeth Wilbert Lloyd Roberts.[4]

Gyrfa golygu

Bu'n chwarae y cymeriad lliwgar Jac Daniels ar Pobol y Cwm yn yr 1980au. Fe ymddangosodd ar y rhaglen blant Miri Mawr yn chwarae Caleb y Twrch.

Chwaraeodd rannau mewn cyfresi drama Cymraeg fel Y Pris a Pen Talar, y ffilmiau Rhosyn a Rhith, I Fro Breuddwydion ac Yr Alcoholig Llon ymysg eraill. Yn Saesneg cafodd rannau gwadd mewn cyfresi fel The Indian Doctor, The Bill a Holby City. Roedd hefyd yn un o sêr y gyfres Stella.[5]

Yn 1994 ffurfiodd ei gwmni theatr ei hun, Cwmni Mega, sydd wedi cynhyrchu pantomeimau Cymraeg yn flynyddol ers hynny.[6] Ar ddiwedd 2022, pasiodd yr awennau i'r pâr priod, Lisa Marged a Gwydion Rhys.

Roedd yn ymgyrchydd brwd dros yr iaith Gymraeg, gan ymladd dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd.[7]

Cyhoeddodd ei hunangofiant Dafydd Hywel - Hunangofiant Alff Garnant yn 2013.

Bywyd personol golygu

Roedd yn briod a Betty a cawsant ddau o blant, Catrin a Llŷr.

Bu farw yn 77 mlwydd oed wedi cyfnod o salwch.[8] Cynhaliwyd ei angladd ar ddydd Gwener, 21 Ebrill 2023. Roedd gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Llanelli am 13:00 y prynhawn wedyn cyfle i rannu straeon ac atgofion am ei fywyd ym Mharc y Scarlets.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Yr actor Dafydd Hywel wedi marw'n 77 oed". newyddion.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-03-23.
  2. 2.0 2.1  Hysbysiad marwolaeth - Dafydd Hywel EVANS. Western Mail (1 Ebrill 2023).
  3. Dafydd Hywel - Hunangofiant Alff Garnant; Adalwyd 2015-12-29
  4. Ynol yn y Cwm ar ei newydd wedd? Annes Glynn yn sgwrsio a'r actor Dafydd Hywel, sydd yndychwelyd i Gwmderi fel Jac Daniels. , Daily Post, 15 Mai 2004. Cyrchwyd ar 23 Mawrth 2023.
  5. Cofio - Actor o Ddyffryn Aman ar Cofio; S4C; Adalwyd 2015-12-29
  6. Manylion Cwmni Mega ; Adalwyd 2015-12-29
  7. "Cofio Dafydd Hywel, "y dyn llawn"". Golwg360. 2023-06-04. Cyrchwyd 2023-06-07.
  8. "Cofio Dafydd Hywel: hanes eicon Cymreig yng ngeiriau'r rhai oedd agosaf ato". Cambrian News. 2023-06-01. Cyrchwyd 2023-06-07.

Dolenni allanol golygu