Dalvíkurbyggð

Bwrdeisdref, Gwlad yr Iâ

Bwrdeistref fechan yng ngogledd Gwlad yr Iâ yw Dalvíkurbyggð. Mae yn benrhyn Tröllaskagi ac i'r gorllewin o Eyjafjörður. Tref Dalvík yw'r brif aneddiad. Poblogaeth y fwrdeistref oedd 1,134 ar 1 Ionawr 2017.

Dalvíkurbyggð
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,404 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Bwrdeistref Hamar, Viborg, Bwrdeistref Lund, Ittoqqortoormiit, Porvoo Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDalvíkurbyggð Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Yn ffinio gydaGrímsey Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau65.972528°N 18.533481°W Edit this on Wikidata
Map
Map Bwrdeistref Dalvikurbyggdar

Hanes golygu

 
Hrísar yn Dalvíkurbyggð

Am ganrifoedd, enw'r ardal wedi'i gysylltu ers canrifoedd dan yr enw Sandur a Böggvisstaðasandur yn ddiweddarach gyda'r pysgodfa.

Fodd bynnag, dim ond o 1881 yr adeiladwyd yr anheddiad cadarn cyntaf ac adeiladwyr y tŷ pren cyntaf ar y safle yn 1900. Roedd y trigolion yn byw ar bysgota a ffermio tyddynod. Yn 1931, pasiodd y senedd yn Reykjavík gyfraith gyntaf Gwlad yr Iâ ar borthladdoedd pysgota, ac yn sgil hynny adeiladwyd porthladd yn Dalvík yn 1939.[1]

Dioddefwyd daeargryn cryf (6.1 ar raddfa Richter) yn 1934 a cafodd y rhan fwyaf o adeiladau'r adeilad eu difrodi neu eu dinistrio.[2]

O 1946 daeth Dalvík yn fwrdeistref annibynnol a thorrodd oddi wrth y gymuned wledig Svarfaðadalshreppur, 1974, cafodd hawliau ddinas.

O 1968 ymlaen, roedd yr offeiriad plwyf yn byw yn Dalvík (er i'r eglwys leol, fodd bynnag, wedi'i gysegru cyn hynny, yn 1960).

Ffurfiwyd bwrdeistref Dalvíkurbyggð yn 1998 wrth uno tair cymuned allanol Eyjafjörður: tref Dalvík a chymunedau gwledig Svarfaðardalur ac Árskógur. Mae arfbais Dalvíkurbyggð yn arddangos tri mynydd sy'n symbol o uno'r tri cymuned.

Trafnidiaeth golygu

 
Háls í Svarfaðardal, Dalvíkurbyggð

Rhif y brif ffordd yn Dalvíkurbyggð yw 82.

Mae harbwr Dalvík yn ganolfan rhanbarthol ar gyfer mewnforio ac allforio pysgod. Mae cwrdd fferi y Sæfari, yn hwylio o Dalvík i ynys Grímsey. Dyma gymuned fwyaf gogleddol Gwlad yr Iâ ac mae'n gorwedd tu fewn i Gylch yr Artig.

Economi golygu

 
Klængshóll1

Mae economi lleol yr ardal yn seiliedig ar bysgota and phrosesu pysgod yn ogystal â sawl diwydiant arall a ym maes bwyd, y sector gwasanaethau ac, yn gynyddol, technoleg uchel a thwristiaeth. Mae Dalvík yn ganolfan dwritiaeth i bobl sydd am fynd i weld morfilod a hefyd heli sgio.

Gefailldrefi golygu

Engowgion golygu

  • Kristján Eldjárn - Arlywydd Gwlad yr Iâ 1968 - 1980
  • Björgvin Björgvinsson - Sgiwr Alpein sydd wedi cystadlu yng Nghwpan y Byd FIS a'r Gemau Olympaidd.
  • Daníel Hilmarsson - Sgiwr Alpein a enillodd sawl pencampwriaeth genedlaethol a chystadlu yng Ngemau'r Olympaidd, Calgary.
  • Heiðar Helguson - Chwaraewr pêl-droed broffesiynnol Queens Park Rangers yn Lloegr.
  • Freymóður Jóhannsson - Arlunydd a chanwr.
  • Friðrik Ómar - Aelod grŵp 'Euroband' yn yr Cystadleuaeth Cân Eurovision yn 2008.
  • Gunnlaugur Lárusson - Gitarydd yn y band o Wlad yr Iâ, Brain Police.
  • Þórarinn Eldjárn - awdur
  • Magni Þór Óskarsson - Enillydd y 'Gettu Betur' yn 2006 gyda Menntaskólinn á Akureyri
  • Johann K. Petursson - "The Viking Giant."

Cyfeiriadau golygu

  1. Íslandshandbókin. Náttúra, saga og sérkenni. 1. bindi. Hg. T. Einarsson, H. Magnússon. Örn og Örlygur, Reykjavík 1989, 427
  2. Íslandshandbókin. Náttúra, saga og sérkenni. 1. bindi. Hg. T. Einarsson, H. Magnússon. Örn og Örlygur, Reykjavík 1989, 428

Dolenni allanol golygu