Damcaniaeth y Glec Fawr

Yng nghosmoleg ffisegol, damcaniaeth y Glec Fawr yw'r ddamcaniaeth wyddonol sy'n ceisio esbonio sut yr ymddangosodd y bydysawd allan o gnewyllyn dwys a phoeth iawn tua 13.7 biliwn o flynyddoedd yn ôl (sef hanner nos neu 0000 o'r gloch ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn gosmig).[1][2][3]

Damcaniaeth y Glec Fawr
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad, cosmological model, big bang, unmoved mover Edit this on Wikidata
MathBig Bounce Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebsteady-state model Edit this on Wikidata
DyddiadMileniwm 13799. CC Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1931 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nid oedd pob seryddwr yn derbyn y ddamcaniaeth erbyn canol yr 20g, fodd bynnag. Ymhlith y rhai wnaeth gynnig damcaniaethau eraill oedd Sir Fred Hoyle, awdur y ddamcaniaeth cyflwr cyson.[1] Ond yn y 1960au fe wnaeth gwyddonwyr ddarganfod tystiolaeth oedd yn cefnogi damcaniaeth y Glec Fawr, yn enwedig y pelydriad cefndir microdon cosmig ac esblygiad yng ngalaethau radio pell.[2] Erbyn heddiw, mae arsylliadau o sawl maes seryddol yn cefnogi'r ddamcaniaeth, gan gynnwys natur y cefndir microdon cosmig ar lefel fanwl.[4]

Egwyddorion damcaniaeth y Glec Fawr golygu

 

Yn ôl damcaniaeth y Glec Fawr, ymddangosodd y Bydysawd o ffurf ddwys a phoeth iawn (gwaelod). Ers hynny, mae mater yn y gofod ar lefel eang wedi ehangu gydag amser, gan gynnwys galaethau.

 
Antena radio yn Holmdel, New Jersey, Unol Daleithiau, wnaeth ddarganfod pelydriad cefndir microdon cosmig


Mae damcaniaeth y Glec Fawr yn seiliedig ar Egwyddor Gosmolegol a damcaniaeth perthnasedd cyffredinol Einstein. Yr Egwyddor Gosmolegol yw'r syniad bod y Bydysawd yn homogenaidd ac isotropig ar raddfa eang. Mae hyn yn golygu bod gwedd y Bydysawd yr un fath ym mhob man, ar hyn o bryd, o safbwynt strwythurau mawr iawn. Felly does dim byd arbennig gyda lleoliad Galaeth y Llwybr Llaethog, ein galaeth ni, yn y Bydysawd, yn hytrach na strwythau lleol fel galaethau, clystyrau galaethau ac ati.

Yn y ddamcaniaeth mae'r Bydysawd wedi ehangu o gyflwr dwys iawn ac yn dal i ehangu heddiw. Felly mae'r pellter rhwng unrhyw ddwy alaeth ymhell o'u gilydd yn cynyddu. Hefyd mae galaethau pell o'n Galaeth ni yn symud i ffwrdd ohonom.

Un canlyniad naturiol o ddamcaniaeth y Glec Fawr yw bod gwrthrychau seryddol pell, fel galaethau, yn dangos symudiad nodweddion yn eu sbectra i donfeddi hirach, yr effaith a elwir dadleoliad coch (neu weithiau ‘rhuddiad’). Mwy na hyn, mae'r Egwyddor Gosmolegol yn mynnu bod maint y dadleoliad coch   mewn cyfrannedd â'r pellter  , fel  , ac eithro mudiannau bach lleol galaethau.

Darllen pellach golygu

  • Stephen Hawking, A Brief History of Time (Llundain, 1988)
  • Lawrence M. Krauss, A Universe from Nothing (Simon & Schuster, 2012)
  • Simon Singh, Big Bang (Llundain, 2005)

Ffynonellau golygu

  1. 1.0 1.1 Williams, Iwan P. (1967), "Cosmoleg", Y Gwyddonydd 5 (1): 32–34, https://journals.library.wales/view/1394134/1396799/33, adalwyd 15 Ebrill 2017
  2. 2.0 2.1 Jones, Tegid Wyn (1972), "Ffiseg Heddiw. VIII. Awdl y Bydysawd", Y Gwyddonydd 10 (4): 199–202, https://journals.library.wales/view/1394134/1400316/44, adalwyd 17 Ebrill 2017
  3. Jones, Tegid Wyn (1978), "Y Bydysawd", Y Gwyddonydd 16 (2/3): 53–59, https://journals.library.wales/view/1394134/1403691/9, adalwyd 17 Ebrill 2017
  4. Evans, Rhodri (2015). The Cosmic Microwave Background (yn Saesneg). Heidelberg: Springer. ISBN 978-3-319-09927-9
  Eginyn erthygl sydd uchod am seryddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.