Damcaniaeth y dominos

Damcaniaeth ym mholisi tramor Unol Daleithiau America yn ystod y Rhyfel Oer oedd damcaniaeth y dominos sydd yn tybio byddai gwladwriaeth sydd yn troi'n gomiwnyddol yn ysgogi llywodraethau comiwnyddol i ddod i rym mewn gwladwriaethau cyfagos, megis effaith dominos yn cwympo.[1] Defnyddiwyd y syniad yn gyntaf gan yr Arlywydd Harry S. Truman i gyfiawnhau danfon cymorth milwrol i Wlad Groeg a Thwrci yn y 1940au, ac roedd yn rhan bwysig o bolisi tramor yr Arlywydd Dwight D. Eisenhower yn y 1950au. Bu llywodraeth yr Unol Daleithiau yn pryderu'n enwedig am ymlediad comiwnyddiaeth yn Ne Ddwyrain Asia, a defnyddiwyd effaith y dominos i gyfiawnhau ymyrraeth filwrol gan yr Americanwyr yn Rhyfel Fietnam.

Damcaniaeth y dominos
Enghraifft o'r canlynolpolitical theory Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfeiriadau golygu

  1. Leeson, Peter T.; Dean, Andrea (2009). "The Democratic Domino Theory". American Journal of Political Science. 53 (3): 533–551. doi:10.1111/j.1540-5907.2009.00385.x.
  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.