Llwyth Celtaidd yn byw yn yr hyn sy'n awr yn ne-orllewin yr Alban oedd y Damnonii, hefyd Damnii. Ceir cyfeiriad atynt yn Geographia Ptolemi, ond nid oes cofnod arall amdanynt. Enwir eu prif drefi gan Ptolemi fel Vanduara, Colania, Coria, Alauna, Lindum a Victoria.

Tigiogaeth y Damnonii a'u cymdogion

Mae'n debyg eu bod yn bobl Frythonaidd, ac roedd eu tiriogaeth yn cyfateb yn fras i deyrnas Frythonig Ystrad Clud yn ddiweddarach.