Cyn-yrrwr rasio Fformiwla Un o Loegr yw Damon Graham Devereux Hill OBE (ganed 17 Medi 1960). Enillodd Hill Pencampwriaeth y Byd Fformiwla Un yn 1996 ac fe yw'r unig fab o Bencampwr i ennill y tlws. Fe fu farw ei thad pan oedd Hill yn 15 mlwydd oed, ac ni ddechreuodd cystadlu cyn oedd yn 23. Ar ôl ychydig lwyddiant yn y cyfresi is, fe symudodd ymlaen i'r gyfres Fformiwla 3000 yn 1989.

Damon Hill
GanwydDamon Graham Devereux Hill Edit this on Wikidata
17 Medi 1960 Edit this on Wikidata
Hampstead Edit this on Wikidata
Man preswylWest End House Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Haberdashers' Aske's Boys' School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgyrrwr Fformiwla Un, person busnes, gitarydd Edit this on Wikidata
Taldra182 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau78 cilogram Edit this on Wikidata
TadGraham Hill Edit this on Wikidata
PlantJosh Hill Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, Gwobr Personoliaeth y Flwyddyn, BBC, Segrave Trophy Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Fe ymynodd Hill gyda thîm Williams fel gyrrwr profi yn 1992, cyn cael ei dyrchafu i yrrwr llawn yn 1993, ar ôl i Nigel Mansell gadael y tîm. Fe gymerodd ei buddugoliaeth gyntaf yn Grand Prix Hwngari 1993. Yn ystod ganol yr 1990au, roedd Hill yn cystadlu yn erbyn Michael Schumacher am Bencampwriaeth y Byd. Enillodd Schumacher ei phencampwriaeth gyntaf yn 1994, ar ôl gwrthdrawiad dadleuol rhwng y ddau yn ras olaf y tymor. Fe enillodd Hill Pencampwriaeth y Byd yn 1996, ond fe wnaeth Williams ei rhyddhau ar ddiwedd y tymor. Fe symudodd i dîm Arrows ac wedyn Jordan, gan ennill buddugoliaeth gyntaf tîm Jordan yn 1998.

Fe wneath Hill ymddeol o rasio ar ddiwedd tymor 1999. Ers hynny, mae wedi sefydlu sawl busnes ei hunan, yn ogystal â gwneud sawl ymddangosiad gyda bandiau enwogrwydd. Yn 2006, cafodd ei ethol yn llywydd yr British Racing Drivers Club, yn dilyn Jackie Stewart.

Bywyd personol golygu

Ganwyd Hill yn Hampstead, Llundain, ar 17 Medi 1960 yn fab i Graham a Bette Hill. Gyrrwr Fformiwla Un oedd Graham Hill; enillodd fe pencampwriaeth y byd yn 1962 and 1968. Fe ddaeth gyrfa Graham Hill a bywyd cyffyrddus ac erbyn 1975 roedd y teulu yn byw mewn plasty yn Swydd Hertford, gyda Damon yn mynychu ysgol breifat Haberdashers' Aske's.[1] Fe fu farw Graham Hill yn ddamwain awyren yn 1975, gan adael gweddill y teulu yn amgylchiadau gostyngol.[2] Fe fe Damon Hill yn gweithio fel labrwr ac rhedwas er mwyn cynnal ei addysg bellach.[3]

Fe briododd Hill i Georgie (geni 29 Ebrill 1961) ac mae ganddynt bedwar plentyn: Oliver (geni 4 Mawrth 1989), Joshua (geni 9 Ionawr 1991), Tabitha (geni 19 Gorffennaf 1995) a Rosie (geni 1 Chwefror 1998). Cafodd Oliver ei eni gyda syndrom Down ac mae Hill a Georgie yn noddwyr Cymdeithas Syndrom Down.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1.  HILL, Damon Graham Devereux. Oxford University Press (December 2007).
  2. Henry, Alan (1994). Damon Hill. Cambridge: Patrick Stephens Ltd. tt. 10–12 & 16–17. ISBN 1852604840.
  3. (Television Production). Unknown parameter |amser= ignored (help); Unknown parameter |teitl= ignored (help); Unknown parameter |cyhoeddwr= ignored (help); Unknown parameter |lleoliad= ignored (help); Unknown parameter |pobl= ignored (help); Unknown parameter |dyddiad2= ignored (help); Missing or empty |title= (help); |access-date= requires |url= (help)
  4. Down's Syndrome Association Annual Report 2006-2007 (PDF). URL