Cyfres o ogofâu yn ne Powys yw Dan yr Ogof. Mae'n rhan o Ganolfan Ogofâu Arddangos Cenedlaethol Cymru. Saif ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yng nghongl de-orllewinol y Fforest Fawr, ger pentref Craig-y-nos. Mae tua 5 milltir i'r gogledd o Ystradgynlais a 15 milltir i'r de-orllewin o Aberhonddu, yng nghymuned Tawe Uchaf.

Dan-yr-Ogof
Mathgwrthrych daearyddol, ogof i ymwelwyr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8307°N 3.6873°W Edit this on Wikidata
Hyd17 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Rhan o Dan yr Ogof

Mae Dan-yr-Ogof tua 10 milltir (16 km) o hyd, ac yn rhan o gyfres fwy o ogofâu; un o'r mwyaf yng ngorllewin Ewrop. Archwiliwyd yr ogofâu yma gyntaf yn 1912 gan ddau frawd lleol, Tommy a Jeff Morgan.

Cafwyd hyd i esgyrn dynol o 42 o unigolion yn yr ogofâu, ynghyd â llawer o esgyrn anifeiliaid.

Llyfryddiaeth golygu

  • Martyn Farr, Dan yr Ogof: The Jewel of Welsh Caves (Gwasg Gomer, 1999)

Dolen allanol golygu