Dan y Wenallt (ffilm 2015)

ffilm ddrama gan Kevin Allen a gyhoeddwyd yn 2015

Ffilm Gymreig o 2015 yw Dan y Wenallt (Saesneg: Under Milk Wood) wedi ei seilio ar Under Milk Wood gan Dylan Thomas. Fe'i addaswyd a chyfarwyddwyd gan Kevin Allen. Adroddwr y stori yw Rhys Ifans. Dewiswyd y ffilm fel cynnig gwledydd Prydain ar gyfer Ffilm Iaith Dramor Orau ar gyfer Gwobrau'r Academi yn 2016 ond ni chafodd ei enwebu.

Dan y Wenallt
Cyfarwyddwyd ganKevin Allen
Awdur (on)Kevin Allen
Dylan Thomas
Yn serennuRhys Ifans
Rhyddhawyd gan
  • 20 Mehefin 2015 (2015-06-20) (EIFF)
  • 30 Hydref 2015 (2015-10-30) (UK)
Hyd y ffilm (amser)87 munud
GwladY Deyrnas Unedig
IaithCymraeg
Saesneg

Cast golygu

Cynhyrchiad golygu

Cynhyrchiad 2015 o Dan y Wenallt (gyda Rhys Ifans a Charlotte Church) oedd yr addasiad ffilm gyntaf y ddrama ers y ffilm o 1972 (a serennodd Elizabeth Taylor ac Richard Burton).[1]

Ffilmiwyd y fersiwn newydd yn bennaf ym mhentref Solfach, Sir benfro yn ystod Haf 2014.[2] Saethwyd dwy fersiwn o'r ffilm, un yn Saesneg (a elwir yn Under Milk Wood) a'r llall yn Gymraeg. Cynigiwyd Dan y Wenallt ar gyfer gyfer Ffilm Iaith Dramor Orau ar gyfer Oscars 2016.[3][4][5]

Cafodd y ffilm ei ddangos am y tro cyntaf yn gyd-amserol yng Nghaerdydd ac yn Theatr Gwaun yn Abergwaun, cyn deithio o amgylch Cymru ym mis Rhagfyr 2014 fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant geni Thomas.[6] Cafodd ei ddangosiad swyddogol cyntaf yn y DU ym mis Mehefin 2015 yn Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin.

Derbyniad golygu

Ar wefan adolygu Rotten Tomatoes, mae gan y ffilm sgôr cymeradwyaeth o 33% yn seiliedig ar 18 adolygiadau, gyda sgôr cyfartalog o 5.1/10.[7]

Yn adolygiad papur newydd The Independent, mae'n dweud ei fod yn dangos " tremendous visual imagination in places and has plenty of ghoulishness, scabrous humour and eroticism along the way" ac "doesn't hold back on depicting the grotesquerie of the Wales that Dylan Thomas evoked".[8] Mae llais Rhys Ifans' yn "calmer and more measured than Burton's mercurial, intensely dramatic rendition" ac ei fod mwy neu lai yn clymu "dozens of surrealistic tableau-like scenes". Mae'n rhoi tri allan o bum seren i'r ffilm.

Rhoddidd y Daily Mirror tri allan o bum seren i'r ffilm hefyd, er ei ddisgrifio fel "methiant bonheddig " lle mae'r cyfarwyddwr yn "deploys no end of visual tricks to match Thomas’s lyricism – a glaring palette, soft focusing and even a camera seemingly mounted on the back of a mouse – but the tricks distract as much as they divert".[9]

Mae adolygiad y cylchgrawn Variety yn tynnu sylw at y ffaith nad yw hiwmor y ddrama wreiddiol wedi parhau'n addas i'r cyfnod a fod perfformiadau y cast yn "obscured by the film’s florid visual style and fruity versification", tra fyddai'r cast Cymreig a fersiwn Cymreig yn "cyfyngu ei apêl tu allan i Gymru" ac yn "minor status as a local curiosity".[10]

Disgrifiodd Screen Daily y ffilm fel "sticky mess of sexual urges and intrigue, ...which clouds Thomas’ work rather than clarifies it" gyda'r elfen weledol "frequently distracting and sometimes outright unpleasant".[11]

Cyfeiriadau golygu

  1. Jones, Hannah (11 Hydref 2015). "The Welsh film based on Under Milk Wood going for Best Foreign Language Film at the Oscars". Wales Online. Media Wales. Cyrchwyd 28 Mai 2018.
  2. "Solva taken over for Under Milkwood filming". BBC News. BBC. 23 Mehefin 2014. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2015.
  3. "Under Milk Wood: Rhys Ifans calls film a 'joyous tirade'". BBC News. BBC. 30 Hydref 2015. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2015.
  4. Kojen, Natalie (8 Hydref 2015). "81 Countries In Competition For 2015 Foreign Language Film Oscar". Oscars. Academy of Motion Picture Arts and Sciences. Cyrchwyd 9 Hydref 2015.
  5. "Under Milk Wood entered for Best Foreign Language Oscar". The Telegraph. Telegraph Media Group. 10 Hydref 2015. Cyrchwyd 10 Hydref 2015.
  6. County Echo Reporter (12 Hydref 2015). "Movie filmed in Solva submitted for Oscars". County Echo. Tindle Newspaper Group. Cyrchwyd 28 Mai 2018.
  7. "Under Milk Wood (2015)". Rotten Tomatoes. Fandango Media. Cyrchwyd 22 August 2018.
  8. Macnab, Geoffrey (29 October 2015). "Under Milk Wood, film review: Snobbery and spanking in rural Wales". The Independent. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2015.
  9. Edwards, David (30 Hydref 2015). "Under Milk Wood - review: Audacious adaptation of Dylan Thomas classic is a noble failure". Daily Mirror. Mirror Group Newspapers. Cyrchwyd 29 Tachwedd 2015.
  10. Bray, Catherine (14 Rhagfyr 2015). "Film Review: 'Under Milk Wood'". Variety. Penske Business Media. Cyrchwyd 28 Mai 2018.
  11. Ide, Wendy (27 Hydref 2015). "'Under Milk Wood': Review". Screen Daily. Screen International. Cyrchwyd 28 Mai 2018.

Dolenni allanol golygu