Cyfansoddyn cemegol halocromig ("halochromic chemical compound") a ychwanegir bob yn dipyn i hydoddiant yw dangosydd pH er mwyn penderfynu beth yw ei pH: asid ynteu alcali. Detector neu ganfodydd cemegol ydyw, felly, sy'n dangos bodolaeth ionau Hydrogen (H+) yn y model Arrhenius. Fel arfer, mae'r dangosydd yn newid lliw'r hydoddiant, yn dibynnu ar y pH. Mae sylwedd gyda gwerth o 7.0 neu ragor yn alcali, a pH o 7.0 neu fwy yn asidig. Mae hydoddiant o 7.0 yn cael ei gyfri yn niwtral.

mesur pH gyda phapur fel y dangosydd.

Dangosyddion pH naturiol golygu

 
Seithliw'r enfys (neu Blodyn Trilliw-ar-ddeg): sydd a'r gallu i newid lliw yn dibynnu ar asidedd y pridd.

Mae llawer o blanhigion yn cynnwys cemegolion o deulu'r anthocyanin o gyfansoddion sydd â lliw naturiol iddynt. Maent yn goch mewn hydoddiant asidig a glas mewn bas.Gellir berwi bresych coch i dynnu'r anthocyanins allan ohono neu allan o groen lemwn i greu dangosydd pH asidig mewn ffordd eitha dramatig. Ceir anthocyanins hefyd yn y canlynol: mynawyd y bugail, popi, petalau'r rhosyn, cwraints duon, llys (ffrwythau) a choesau riwbob.