Daniaid (llwyth Almaenig)

Llwyth o bobl a oedd yn byw yn yr ardal o Lychlyn a adnabyddwn heddiw fel de Sweden, ynysoedd Denmarc a Jutland oedd y Daniaid. Mae Procopiws yn eu crybwyll yn y 6g ac yna gan Gregory o Tours.

Daniaid
Enghraifft o'r canlynolllwyth Edit this on Wikidata
Mathpobloedd gogledd yr Almaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymosododd y Daniaid ar ynysoedd Prydain ac Iwerddon oddeutu 800 OC gan ddechrau cartrefu yn Lloegr yn 865 pan symudodd y brodyr Halfdan Ragnarsson ac Ivar Ddi-asgwrn i Ddwyrain Anglia. Llwyddodd y ddau frawd i gipio Northumbria o ddwylo'r Anglo Sacsoniaid yn 867 ac Efrog yn ddiweddarach. Ymosododd y Daiaid hefyd ar Iwerddon yn 853 a daeth llawer o drigolion yno i fyw gan gymhathu gyda'r gymdeithas leol a throi'n Gristnogion.

Yn ôl yr awdur Sven Aggesen (12ed ganrif), y brenin chwedlonol "Dan" a roddodd ei enw i'r Daniaid.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.