Roedd Daniel Gooch (24 Awst 181615 Hydref 1889) yn beiriannydd, enwog am ei waith efo Rheilffordd y Great Western.

Daniel Gooch
Ganwyd24 Awst 1816 Edit this on Wikidata
Bedlington Edit this on Wikidata
Bu farw15 Hydref 1889 Edit this on Wikidata
Windsor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd, gwleidydd, peiriannydd rheilffyrdd, dylunydd locomotif Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadJohn Gooch Edit this on Wikidata
MamAnna Longridge Edit this on Wikidata
PriodMargaret Tanner, Emily Burder Edit this on Wikidata
PlantAnna Longridge Gooch, Emily Jane Gooch, Sir Henry Daniel Gooch, 2nd Bt., Charles Fulthorpe Gooch, Alfred William Gooch, Frank Gooch Edit this on Wikidata

Ganwyd Gooch yn Bedlington. Daeth yn beiriannydd yn ffatri locomotifau Edward Pease a Robert Stephenson yn Newcastle upon Tyne, ac wedyn yng Ngwaith Haearn Tredegar. Daeth yn orychwylydd locomotifau i Reilffordd y Great Western ym 1837, yn 21 oed. Roedd ei locomotifau'n gyflymach na locomotifau rheilffyrdd eraill, oherwydd lled y cledrau, 7 troedfedd yn hytrach na led safonol y rheilffyrdd eraill. Cynlluniodd o gyfanswm o 340 math gwahanol o locomotifau. Cynlluniodd o Gwaith Rheilffordd Swindon. Gadawodd y rheilffordd ym 1864 i ganolbwyntio ar ddatblygiad cysylltiad telegraffig, a daeth yn gadeirydd y Cwmni Adeiladwaith a Cynhaliaeth Telegraff (Telcon) ac yn gyfarwyddwr Cwmni Telegraff Anglo-American. Goruchwyliodd ef osodiad y cebl cyntaf dros y Môr Iwerydd ym 1866, ac un arall o Brest i Ganada ym 1869. Ym 1865, daeth yn Aelod Seneddol i Cricklade hyd at 1885. Ym 1865, daeth yn gadeirydd Rheilffordd y Great Western.

Bu farw Gooch ar 15 Hydref 1889.[1]

Cyfeiriadau golygu