Daniel Protheroe

cyfansoddwr a aned yn 1866

Roedd Daniel Protheroe hefyd Dr Daniel Protheroe (5 Tachwedd 1866 - 25 Chwefror 1934), yn gyfansoddwr Cymreig ac arweinydd corau. Ganed ef yng Nghwmgïedd ger Ystradgynlais. Wedi llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol ymfudodd i'r UDA lle'i addysgwyd yn gerddorol. Mae'n fwyaf adnabyddus am gyfansoddi emynau i'r Methodistiaid Calfinaidd gan gynnwys Laudamus ei drefniant o emyn-dôn William Owen (Prysgol), Bryn Calfaria.

Daniel Protheroe
Ganwyd5 Tachwedd 1866 Edit this on Wikidata
Ystradgynlais Edit this on Wikidata
Bu farw25 Chwefror 1934 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfansoddwr, arweinydd Edit this on Wikidata
llofnod

Bywgraffiad golygu

Ganed Protheroe i Daniel ac Eleanor Prothero, (heb e ar y diwedd) a feithrinwyd addysg gerddorol ynddo yn ifanc. Bu'n cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1880 a Merthyr Tudful 1881 cyn i'w lais dorri, gan ennill gwobrau yn y ddau eisteddfod. Yn 16 oed, arweiniodd Gôr Ystradgynlais yn Eisteddfod leol Llandeilo gan ennill y wobr gorawl.

Gogledd America golygu

Yn 19 oed, ymfudodd i'r UDA gan fyd yn Scranton, Pennsylvania lle roedd cymuned fawr o Gymry. Yno bu iddo ddilyn cyrsiau mewn arwain cerddoriaeth a'i diwtora gan Parson Price, Dudley Buck a Hugo Karn. Graddiodd gyda gradd Baglor Cerddoriaeth o Goleg Cerddoriaeth Toronto, gan ddod yn Ddoctor Cerddoriaeth yn nes ymlaen. Tra oedd yn Scranton, sefydlodd ac arwain Cymdeithas Gorawl y Cymrodorion gyda thros 250 o gantorion corawl Cymreig. Enillodd y côr yr ail wobr yn Eisteddfod Ryngwladol Ffair y Byd, Chicago ym 1893 a Daniel Protheroe oedd y person cyntaf yn Scranton i lwyfannu ac arwain oratorio (Gwledd Alecsander gan Handel) gyda cherddorfa. Yn Scranton hefyd y cwrddodd a phriodi â’i wraig Hannah Harris.[1] Yn yr Unol Daleithiau, bu’n beirniadu pob un o bum Eisteddfod Genedlaethol America, Eisteddfod Ryngwladol Pittsburgh a llawer o eisteddfodau rhanbarthol ar draws y wlad.

Am wyth mlynedd bu'n arweinydd y Cymmrodorion Choral Society, Scranton. Yn 1894 symudodd i Milwaukee a bu yn arweinydd i amryw o gymdeithasau corawl. Yn ddiweddarach symudodd i Chicago, a phenodwyd ef yn arweinydd i nifer o gorau, yn athro yn y Sherwood Music School, ac yn gyfarwyddwr cerdd y Central Church. Tra yn Chicago, mentorodd Rhys Morgan ("The Welsh Tenor" 1892-1961)[2] a Haldor Lillenas (1885–1959). Ymwelai â Chymru yn gyson, a bu yn beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn arwain gŵyl gerddorol Harlech, 1931.

Cyhoeddiadau a Chyfansoddiadau golygu

Ysgrifennodd y llyfrau Arwain Corau, (1914), a Nodau Damweiniol a D'rawyd, (1924), ac yn 1918 golygdodd y llyfr emynau, Cân a Mawl ar gyfer Methodistiaid Calfinaidd Gogledd America.[3]

Cyfansoddodd lawer iawn — y gantawd ‘St Pedr’ ac eraill. Bu ei ddarnau i gorau meibion, ‘Invictus,’ ‘Nun of Nidaros,’ ‘Bryn Calfaria,’[4] 'Price, 'Cwmgiedd' ynghyd â ‘Jesu, lover of my soul,’ yn ddarnau prawf mewn llawer o eisteddfodau, a cheir ei anthemau, tonau, a thonau plant bron ym mhob casgliad o donau Cymraeg. Cyfabnsoddodd hefyd ddau cwartet llinynol a cherdd symffonig.

Marw a Choffa golygu

Bu farw yn ei gartref yn Chicago, 25 Chwefror 1934. Yn 1954, dadorchuddwyd plac mewn cof amdanno yn ei fan geni yn Ystradgynlais.[5]

Gwobr Daniel Protheroe golygu

GWOBR NEWYDD: ‘Gwobr Dr Daniel Protheroe am Ysgrifennu Emyn’ i lansio yn yr Ŵyl Cymru Gogledd America, 2019. Yn 2019 bu i Gŵyl Cymru Gogledd America, 2019 ("The North American Festival of Wales" - "NAFOW") lansio gwobr newydd er mwyn dathlu Daniel Protheroe. Y cyntaf o wobr flynyddol i’w roi am ysgrifennu emyn-dôn a geiriau newydd. Bydd panel o sgrifennwyr a chyfansoddwyr nodedig yn barnu’r gystadleuaeth a bydd yr ymgeision o dan ffugenw. Bydd yr enillwyr yn cael ei cyhoeddi yn sesiwn prynhawn y Cymanfa Ganu NAFOW 2019 yn Milwaukee, WI gyda Corws yr Ŵyl yn perfformio’r emyn llwyddiannus er mwyn i bawb glywed a mwynhau.[1] Ceir gwobr o $1,000 a noddwyd gan Sally Evans (er cof am John a Wilma Evans) a noddwr anhysbus arall.[6]

Llyfryddiaeth golygu

  • Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  • Howard, John Tasker (1939). Our American Music: Three Hundred Years of It. New York: Thomas Y. Crowell Company.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu