Actor Seisnig yw Daniel Jacob Radcliffe[1][2] (ganwyd 23 Gorffennaf 1989). Adnabyddir ef orau am ei rôl fel Harri Potter ymhob un o'r pum ffilm yn seiliedig ar y llyfrau hynod boblogaidd Harry Potter. Fe fydd hefyd yn ymddangos yn y tri ffilm olaf yn y gyfres.

Daniel Radcliffe
FfugenwJacob Gershon Edit this on Wikidata
GanwydDaniel Jacob Radcliffe Edit this on Wikidata
23 Gorffennaf 1989 Edit this on Wikidata
Hammersmith Edit this on Wikidata
Man preswylFulham, West Village Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Dinas Llundain
  • Sussex House School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor plentyn, canwr, actor llwyfan, actor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHarry Potter, Miracle Workers, A Young Doctor's Notebook Edit this on Wikidata
Taldra1.65 metr Edit this on Wikidata
TadAlan Radcliffe Edit this on Wikidata
MamMarcia Jacobson Edit this on Wikidata
PartnerErin Darke Edit this on Wikidata
Gwobr/auGolden Apple Award, National Movie Awards, Gwobrau Teen Choice, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobrau Ffilmiau MTV, Sitges Film Festival Best Actor award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.danieljradcliffe.com Edit this on Wikidata
llofnod

Mae Radcliffe hefyd wedi actio mewn cynyrchiadau llwyfan a nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu eraill, gan gynnwys y ffilm ITV My Boy Jack a'r drama lwyfan Equus, a gafodd feirniadaethau canmoladwy iawn. Credir fod ganddo ffortiwn bersonol o ychydig yn llai na £20 miliwn, a ddaeth yn bennaf o'i gytundeb gyda'r ffilmiau Harry Potter.

Bywgraffiad golygu

Ei fywyd cynnar

Ganwyd Radcliffe yn Ysbyty'r Frenhines Charlotte, Gorllewin Llundain, Lloegr. Ef oedd unig fab Alan Radcliffe, asiant llenyddol, a Marcia Gresham (ganed Marcia Gresham Jacobson), asiant castio a oedd ynghlwm â nifer o ffilmiau ar gyfer y BBC gan gynnwys The Inspector Lynley Mysteries ac yn fwy diweddar Walk Away and I Stumble. Iddewes yw mam Radcliffe a gafodd ei magu yn Westcliff-on-Sea, Essex; magwyd ei dad yng Ngogledd Iwerddon. Dangosodd Radcliffe ddiddordeb mewn actio am y tro cyntaf pan oedd yn bum mlwydd oed. Ym mis Rhagfyr 1999, cafodd ei ran cyntaf yn addasiad dwy-ran y BBC o nofel Charles Dickens "David Copperfield". Chwaraeodd ran y prif gymeriad.

Ffilmiau golygu

Ffynonellau golygu

  1.  Daniel Radcliffe (actor bio). HarryPotter.Warnerbros.
  2. Daniel Radcliffe[dolen marw], neu Daniel Jacob Radcliffe - Britannica Online Encyclopedia


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.