Darius II, brenin Persia

Brenin Ymerodraeth Persia oedd Darius II, Hen Berseg: Dārayavahuš, enw gwreiddiol Ochus (bu farw 404 CC).

Darius II, brenin Persia
Ganwyd475 CC Edit this on Wikidata
Persis Edit this on Wikidata
Bu farw404 CC Edit this on Wikidata
Babilon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Ymerodraeth Achaemenaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn, Shah Edit this on Wikidata
SwyddPharo Edit this on Wikidata
RhagflaenyddArsites Edit this on Wikidata
TadArtaxerxes I, brenin Persia Edit this on Wikidata
MamCosmartidene Edit this on Wikidata
PriodParysatis Edit this on Wikidata
PlantOstanes, Artaxerxes II, brenin Persia, Cyrus yr Ieuengaf, Amastris Edit this on Wikidata
LlinachBrenhinllyn yr Achaemenid Edit this on Wikidata

Roedd Ochus yn fab gordderch i Artaxerxes I. Ar farwolaeth Artaxerxes yn 424 CC, olynwyd ef gan ei unig fab gan ei frenhines, Xerxes II. Yn fuan wedyn, llofruddiwyd Xerxes II ar orchymyn ei hanner brawd, Sogdianus, a'i dilynodd ar yr orsedd. Chwe mis yn ddiweddarach, lladdwyd Sogdianus ar orchymyn Ochus, a daeth Ochus yn frenin dan yr enw Darius II yn 423 CC.

Er iddo deyrnasu am bron ugain mlynedd, ni wyddir llawer am ddigwyddiadau ei gyfnod. Crybwylla Xenophon wrthryfel gan y Mediaid yn 409 CC. Wedi i rym Athen wanychu yn ystod ei rhyfel yn erbyn Sparta, gwnaeth Darius gynghrair gyda Sparta yn ei herbyn, ac yn 408 CC, gyrroedd ei fab, Cyrus i Asia Leiaf i ymgyrchu. Olynwyd ef gan Artaxerxes II.

Rhagflaenydd:
Sogdianus
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia
423 CC404 CC
Olynydd:
Artaxerxes II
Rhagflaenydd:
Sogdianus
Brenin yr Aifft
423 CC404 CC
Olynydd:
Amyrtaeus