Brynfa (hill-station) tua 6,700 troedfedd (2,037 m) uwch lefel y môr, wrth droed yr Himalaya ym mryniau Gorllewin Bengal, gogledd-ddwyrain India yw Darjeeling; mae'n golygu hefyd hefyd y rhanbarth o'r un enw, Darjeeling District, sy'n cynnwys tref Darjeeling ei hun, Kalimpong, Kurseong a Siliguri, gyda phoblogaeth o tua 1.4 miliwn (a'r mwyafrif yn byw yn Siliguri, wrth droed y bryniau).

Darjeeling
Mathmunicipality of West Bengal, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth118,805 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:30 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDarjeeling Sadar subdivision Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd10.57 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr6,710 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27.0375°N 88.2631°E Edit this on Wikidata
Cod post734101 Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganCwmni India'r Dwyrain Edit this on Wikidata
Lleoliad Darjeeling yn India

Mae'r enw yn llygriad o'r enw Tibeteg Dorje-ling ("mangre'r taranfollt"). Mae mwyafrif y boblogaeth o dras Nepalaidd ac yn siarad Nepaleg. Ceir hefyd nifer sylweddol o ffoaduriaid Tibetaidd ynghyd â chanran isel o Fengalwyr a phobl o rannau eraill o India. Yn ogystal ceir rhai pobl Lepcha, trigolion brodorol Sikkim a'r cylch, yn byw yn y bryniau. Mae'r economi yn seiliedig ar dyfu te.

Hanes Darjeeling golygu

Y cefndir golygu

 
Golygfa dros Darjeeling gyda Kanchenjunga yn y cefndir, o Tiger Hill

Hyd at ddechrau’r 18g yr oedd bryniau Darjeeling a Kalimpong yn rhan o Sikkim. Yn 1706 collodd Sikkim ardal Kalimpong i Bhwtan ac yn 1780 cipiodd rheolwyr Gorkhaidd Nepal weddill y diriogaeth. Arweiniodd hyn at wrthdaro rhwng y Gorkhiaid a’r British East India Company a reolai Bengal ar y pryd. Ar ôl cyfres o fân ryfeloedd gorchfygwyd y Gorkhiaid a meddianwyd yr ardal i’r de o Darjeeling gan y Cwmni dan gytundeb â Sikkim a olygodd hefyd fod y Prydeinwyr yn gwaranti sofraniaeth Sikkim ac yn cyfryngu rhwng y wlad honno a’i chymdogion.

Yn 1828 anfonwyd dau swyddog Prydeinig i asesu’r sefyllfa yn ardal Darjeeling. Awgrymodd y swyddogion y byddai Darjeeling yn safle ardderchog i godi iechydfa a brynfa, ar lun y rhai yr oedd y Prydeinwyr eisoes wedi’u sefydlu yn Shimla, yn 1819, ac yn llefydd eraill yng ngogledd-orllewin India, lle gallai swyddogion y Cwmni a’u teuluoedd ddianc o dro i dro rhag gwres a lleithder Bengal. Ar sail adroddiad y swyddogion aeth yr awdurdodau yn Calcutta ati i berswadio raja Sikkim i roi Darjeeling i’r Prydeinwyr yn gyfnewid am stipend flynyddol o 3000 Rupee (a godwyd i Rs 6000 yn 1846). Yn ogystal â bod yn safle dymunol ar gyfer yr iechydfa byddai hynny'n rhoi cyfle i’r Prydeinwyr gadw golwg ar weithgareddau Nepal a Bhwtan ac yn eu galluogi i reoli’r fasnach bwysig rhwng dwyrain India a Thibet.

Prydain a Sikkim golygu

 
Y temlau ar Observatory Hill, Darjeeling
 
Eglwys Sant Andreas, Darjeeling

Ofnai’r Tibetwyr fod Prydain yn ceisio meddiannu Sikkim, a oedd yn ddeiliad i Dibet, gyda’r bwriad o ymestyn eu dylanwad i Dibet ei hun. Ar sawl ystyr roeddent yn llygad eu lle canys dirywiodd economi Lhasa a dwyrain Tibet a dechreuodd cynnyrch rhad y gerddi te newydd yn Darjeeling ddisodli’r te drytach a oedd yn cael ei fewnforio i Dibet o Tsieina. Roedd Sikkim ei hun yn rhanedig gyda phlaid ddylanwadol, a arweinwyd gan y prif weinidog, yn ceisio rhwystro’r raja rhag ildio rhagor i’r Prydeinwyr. Pan arestiwyd y botanegydd Joseph Hooker a Dr Campbell, swyddog gweinyddol yn Darjeeling, gan y blaid wrth-Brydeinig wrth iddynt ymweld â Sikkim yn 1849 dan gytundeb rhwng y raja a’r Prydeinwyr gwaethygodd y sefyllfa. Ildiodd y Sikkimiaid i fygythion milwrol y Prydeinwyr, rhyddheuwyd y gwystlon a chyfeddianwyd yr hyn a oedd yn weddill o diriogaeth Sikkim i’r de o’i ffin bresennol. Cynddeiriogwyd y Tibetwyr, a ofnai gael eu gwasgu oddi ar y map gwleidyddol yn ysglyfaeth i’r Gêm Fawr rhwng Prydain, Rwsia a Tsieina am reolaeth yng Nghanolbarth Asia, ac yn 1886 anfonodd Tibet gwmni o filwyr i Sikkim. Fe’u gorchfygwyd yn rhwydd gan gatrawd o filwyr Prydeinig a gorfodwyd y Tibetwyr i ildio ei hawl ar Sikkim gan y llu ymgyrch Prydeinig a anfonwyd i Lhasa yn 1888. Parhaodd Darjeeling i ffynnu ac mae’n dal i gael ei rheoli o Calcutta heddiw, fel rhan o dalaith Gorllewin Bengal.

Er bod pentref bach wedi bodoli yn Darjeeling cyn rhyfeloedd Sikkim â Nepal a Bhwtan yn y 18g, pan ddaeth y Prydeinwyr yno dim ond mynachlog Dibetaidd oedd ar y bryn coediog, ar y copa a adweinir fel 'Observatory Hill' heddiw. Tyfodd Darjeeling yn gyflym. Agorwyd ffordd iddi yn 1840 ac erbyn 1857 roedd ganddi boblogaeth o ryw 10,000. Roedd llawer o’r bobl hyn yn Nepalwyr, o dras Gorkhaidd yn bennaf, a ddenwyd i weithio yn y gerddi te a oedd yn ymledu dros y bryniau. Erbyn heddiw mae’r rhan fwyaf o’r boblogaeth yn Nepalwyr a’r Nepaleg yw prif iaith y bryniau.

Gorkhaland golygu

Ar ôl annibyniaeth India cryfhaodd y teimlad fod llywodraeth bell Gorllewin Bengal yn gwahaniaethu yn erbyn y Gorkhiaid gan fod rhaid iddynt ddysgu Bengaleg i gael swyddi gan y llywodraeth ac nid oedd statws i’r Nepaleg o gwbl. Daeth pethau i’w pen yn yr 1980au pan welwyd terfysg ar raddau mawr yn y bryniau. Collodd rhai cannoedd o bobl eu bywydau a bu’n rhaid i fyddin India symud i mewn i adfer rheolaeth. Y brif blaid y tu ôl i’r helyntion hyn oedd y Gorkha National Liberation Front (GNLF), dan arweiniad Subash Ghising, a oedd yn galw am sefydlu talaith ffederal annibynnol, o fewn India, wrth yr enw Gorkhaland. Roedd Plaid Gomiwnyddol (Farcsaidd) India (CPI-M) yn gyfrifol am lawer iawn o’r trais hefyd. Yn dilyn trafodaethau â’r llywodraeth ganolog cytunwyd ar gyfaddawd a sefydlwyd y Darjeeling Gorkha Hill Council (DGHC) yn 1988. Erys Darjeeling yn rhan o Orllewin Bengal ond erbyn hyn mae’n mwynhau llawer mwy o reolaeth ar faterion lleol. Serch hynny mae’r ymgyrch i greu Gorkhaland yn parhau ac yn dominyddu bywyd gwleidyddol Darjeeling heddiw.

Y "Trên Tegan" golygu

 
Dolen Batasia

Mae'r trên bach sy'n cysylltu New Jalpaiguri a Darjeeling yn un o'r rheilffyrdd lled cyfyng enwocaf yn y byd. Fe'i adeiladwyd yn bennaf i gludo cynnyrch y gerddi te i Galcutta er mwyn ei allforio i Brydain ac Ewrop a hefyd i gael offer mecanyddol trwm i fyny i'r bryniau. Dechreuwyd y gwaith ar y rheilffordd yn 1879 ac yn 1881 stemiodd y trên bach cyntaf i mewn i orsaf Darjeeling. Roedd y gwaith yn golygu creu nifer fawr o ddoleni tynn a phontydd ac yn sialens aruthrol i'r peirianwyr, yn arbennig Dolen Batasia, 2 milltir o Darjeeling, lle mae'r trên yn gorfod rhedeg yn ei ôl fesul rhan o'r trac igam-ogam er mwyn ei ddringo. Erbyn heddiw mae'r rheilffordd a'i injans hynafol yn un o brif atyniadau twristaidd gogledd-ddwyrain India ond yn ogystal mae'n dal i wneud ei waith ymarferol yn cludo te i lawr i'r gwastadoedd a nwyddau i fyny i'r bryniau.

Llyfryddiaeth golygu

  • K.C. Bhanja, History of Darjeeling and the Sikkim Himalaya (Delhi Newydd, 1993). ISBN 81-212-0441-0
  • L.S.S. O'Malley, Darjeeling District Gazetteer (1907; adargraffiad Delhi Newydd, d.d.). ISBN 81-212-0496-8
  • Fred Pinn, The Road of Destiny (Calcutta, 1986).
  • H.H. Risley (gol.), The Gazetteer of Sikhim (1928; adargraffiad Delhi, 1999). ISBN 81-86142-50-9
  • Jahar Sen, Darjeeling[:] A Favoured Retreat (Delhi Newydd, 1989). ISBN 81-85182-15-9