Dull cyfrin i ragweld y dyfodol yw darogan. Gelwir un sy'n medru darogan yn ddaroganwr neu broffwyd (ond mae proffwyd yn derm sy'n tueddu i gael ei gyfyngu i draddodiadau crefyddol un duw e.e. proffwydi'r Hen Destament.

Y Celtiaid a'r Cymry golygu

Roedd y Celtiaid ymhlith y pobloedd hynafol a ymddiddorai'n fawr mewn darogan. Yng Nghymru'r Oesoedd Canol, roedd bri mawr ar ganu darogan a thestunau rhyddiaith proffwydoliaethol a brutiau. Ceir nifer o gerddi darogan a briodolir gan amlaf i feirdd o'r gorffennol, yn enwedig Taliesin, neu ffigurau chwedlonol fel Myrddin, ond roedd rhai o'r beirdd proffesiynol yn cyfansoddi cywyddau darogan hefyd.

Yn yr Oesoedd Canol, a hyd at y 19eg ganrif, credai rhai fod y Dynion Hysbys yn medru rhagweld y dyfodol.

Rhai dulliau cyffredin golygu

  • Sêr-ddewiniaeth: trwy astudio'r wybren.
  • Argoel: trwy astudio hedfan adar.
  • Llyfr-ddewiniaeth: gyda llyfrau (testunau crefyddol yn aml).
  • Cerdyn-ddewiniaeth: gyda chardiau.
  • Llaw-ddewiniaeth: trwy "ddarllen" cledrau'r dwylo.
  • Adeg-ddewiniaeth: ynglŷn ag adegau, diwnodau lwcus/anlwcus.
  • Cyfrifiadur-ddewiniaeth: gyda chyfrifiaduron.
  • Pêl-ddewiniaeth: gyda phêl grisial.
  • Daear-ddewiniaeth: trwy astudio marciau ar y ddaear, ayyb.
  • Dŵr-ddewiniaeth: trwy astudio dŵr.
  • I Ching; ffurf o Lyfr-Ddewiniaeth.
  • Rhif-ddewiniaeth: trwy astudio rhifau.
  • Breuddwyd-ddewiniaeth: trwy freuddwydion.
  • Rwnig-ddewiniaeth: gyda llythrennau rwnig.
  • Tân-ddewiniaeth: trwy astudio tân.

Gweler hefyd golygu

Chwiliwch am Darogan
yn Wiciadur.