Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru

Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru oedd un o bynciau gwleidyddol a chrefyddol mwyaf chwerw y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru. Yn hanesyddol ac yn gyfreithiol, caif y Mesur hwn ei gyfri'n gam pwysig gan mai dyma un o'r troeon cyntaf i ddarn o gyfraith gwlad gael ei greu'n benodol am Gymru, yn hytrach nac am Gymru a Lloegr.[1]

Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru
Enghraifft o'r canlynolDeddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad1914 Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1914 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata

Yng Nghymru fe'i gwelwyd fel coron ar waith a brwydrau hir a gychwynnwyd yng nghanol y 19g gyda'r Anghydffurfwyr yn eu harwain, ymgyrchoedd megis Rhyfel y Degwm pan ataliodd cannoedd o bobl rhag talu arian prin (degfed rhan o'u hincwm) i'r Eglwys yn Lloegr. Ymhlith yr ymgyrchwyr hyn yr oedd Thomas Gee, Tom Ellis ac aelodau Cymru Fydd.

Gyda sefydlu'r Liberation Society yn 1844 troes yr holl eglwysi Anghydffurfiol, gan gynnwys y Methodistiaid Calfinaidd, i gefnogi'r alwad. Ar ôl dros 60 mlynedd o ymgyrchu a dadlau pasiwyd mesur i ddatgysylltu'r eglwys yn Senedd San Steffan yn 1914 ond oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf ni ddaeth i rym tan 31 Mawrth 1920.

Llyfryddiaeth golygu

  • Philip Bell, Irish and Welsh Disestablishment (1969)
  • K.O. Morgan, Freedom or Sacrilege? (1966)
  • David Walker (gol.), A History of the Church in Wales (1976)

Cyfeiriadau golygu

  1. Philip Jenkins, A History of Modern Wales 1536–1990 (Harlow: Longman, 1992)
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.