David Beckham

actor a aned yn 1975

Chwaraewr pêl-droed yw David Robert Joseph Beckham OBE (ganed 2 Mai 1975). Ar hyn o bryd, mae'n chwarae yng nghanol y maes i glwb Los Angeles Galaxy ac i dîm cenedlaethol Lloegr. Mae cyfnod Beckham gyda Milan, a ddechreuodd ar y 9fed o Ionawr, 2009, yn fenthyciad o ddeufis er mwyn iddo gynnal ei lefelau ffitrwydd yn ystod cyfnod tawel y tymor Americanaidd, er mwyn iddo fedru cynnal ei yrfa gyda thîm Lloegr. Fodd bynnag, mae Beckham wedi datgan ei ddyhead i gael cytundeb parhaol gyda Milan.

David Beckham
Beckham cyn gêm elusennol LA Galaxy
yn erbyn Minnesota Thunder yn 2007.
Manylion Personol
Enw llawn David Robert Joseph Beckham
Dyddiad geni (1975-05-02) 2 Mai 1975 (48 oed)
Man geni Leytonstone, Llundain, Baner Lloegr Lloegr
Taldra 1.83 m
Safle Canol Cae
Manylion Clwb
Clwb Presennol Los Angeles Galaxy
Rhif 23
Clybiau Iau

1987-1991
1991-1993
Brimsdown Rovers
Tottenham Hotspur
Manchester United
Clybiau
Blwyddyn
Clwb
Ymdd.*
(Goliau)
1993-2003
1995
2003-2007
2007-
2009
Manchester United
Preston North End (benthyg)
Real Madrid
Los Angeles Galaxy
Milan (benthyg)
265 (65)
5 (2)
116 (13)
41 (7)
29 (2)
Tîm Cenedlaethol
199201993
1994-1996
1996-2009
Lloegr odan-18
Lloegr odan-21
Lloegr
3 (0)
9 (0)
115 (17)

1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn
a gyfrodd tuag at y gyngrhair cartref yn unig
  diweddarwyd 6 Mawrth 2010.
2 Capiau tîm cenedlaethol a goliau
  diweddarwyd 3 Tachwedd 2010.
* Ymddangosiadau

Daeth Beckham yn ail ddwy waith yn Chwaraewr Blynyddol y Byd FIFA ac yn 2004, ef oedd y pêl-droediwr a gawsai ei dalu fwyaf yn y byd. Beckham oedd y pêl-droediwr Prydeinig cyntaf i chwarae 100 o êmau Cynghrair y Pencampwyr. Yn 2003 a 2004, ef hefyd oedd y pwnc chwaraeon y chwiliwyd amdano fwyaf ar gwefan Google. Gyda'r fath gyhoeddusrwydd fyd-eang, mae Beckham bellach yn arf farchnata o'r radd flaenaf ac yn eicon ffasiwn dylanwadol. Bu Beckham yn gapten ar Loegr o'r 15fed o Dachwedd 2000 tan Cwpan y Byd yn 2006 ac yn ystod y cyfnod hynny, chwaraeodd ar 58 achlysur. Ers hynny, parhaodd i gynrychioli ei wlad gan ennill ei ganfed cap i Loegr yn erbyn Ffrainc ar y 26ain o Fawrth 2008. Ar hyn o bryd, mae ganddo'r un nifer o gapiau a Bobby Moore sef y chwaraewr canol y maes i ennill fwyaf o gapiau dros ei wlad.

Dechreuodd gyrfa Beckham pan arwyddodd gytundeb proffesiynol gyda Manchester United gan chwarae ei gêm gyntaf i'r tîm cyntaf ym 1992 pan oedd yn 17 oed. Tra yno, enillodd Manchester United y Brif Gynghrair ar chwe achlysur, Cwpan yr FA ddwy waith a Chynghrair Pencampwriaeth UEFA yn 1999. Gadawodd Manchester United pan arwyddodd gytundeb gyda Real Madrid yn 2003, ac arhosodd yno am bedair tymor, gan gipio pencampwriaeth La Liga yn ei dymor olaf gyda'r clwb.

Ym mis Ionawr 2007, cyhoeddwyd y byddai Beckham yn gadael Real Madrid ac yn arwyddo cytudeb pum mlynedd gyda chlwb y Prif Gynghrair Pêl-droed, Los Angeles Galaxy. Dechreuwyd cytundeb Beckham gyda'r clwb ar y 1af o Orffennaf 2007. Chwaraeodd i'r tîm am y tro cyntaf mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Chelsea ar y 21ain o Orffennaf a sgoriodd ei gôl gyntaf ar y 15fed o Awst yn rownd cyn-derfynol y SuperLiga 2007.

Priododd y gantores Victoria Adams (y cyn-Spice Girl "Posh Spice") yn 1999. Mae ganddynt dri mab ac ar hyn o bryd, maent yn trigo ym Beverly Hills, Califfornia.

Gyrfa Clwb golygu

Ei blentyndod a'i yrfa cynnar golygu

Ganwyd Beckham yn Ysbyty Prifysgol Whipps Cross yn Leytonstone, Llundain, Lloegr. Ef yw mab David Edward Alan "Ted" Beckham (g. Edmonton, Llundain, Gorffennaf–Medi 1948), adeiladwr ceginau, a'i wraig (g. Bwrdeisdref Hackney, Llundain, 1969) Sandra Georgina West (g. 1949), a weithiai'n trin gwallt. Chwaraeai bêl-droed yn rheolaidd ym Mharc Ridgewat, Chingford pan oedd yn blentyn, a mynychodd Ysgol Gynradd Chase Lane ac Ysgol Sylfaen Chingford. Mewn cyfweliad yn 2007, dywedodd Beckham,

"At school whenever the teachers asked, 'What do you want to do when you're older?' I'd say, 'I want to be a footballer.' And they'd say, 'No, what do you really want to do, for a job?' But that was the only thing I ever wanted to do."

Disgrifa Backham ei dadcu ar ochr ei fam fel Iddew a chyfeiria at ei hun fel "hanner Iddew" gan son am y dylanwad mae'r grefydd wedi cael arno. Yn ei lyfr "Both Feet on the Ground", dywed yr arferai fynychu'r eglwys gyda'i rieni a'i ddwy chwaer, Joanne a Lynne pan oedd yn tyfu i fyny. Roedd ei rieni'n gefnogwyr brwd o dîm Manchester United a byddent yn teithio o Lundain i Old Trafford yn rheolaidd er mwyn gweld y tîm yn chwarae. Etifeddodd Beckham gariad ei rieni at Fanceinion Unedig a'i brif ddiddordeb mewn bywyd oedd pêl-droed. Mynychodd un o ysgolion pêl-droed Bobby Charlton ym Manceinion ac enillodd y cyfle i gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi gyda Barcelona, fel rhan o gystadleuaeth dalentau. Chwaraeodd i dîm ieuenctid lleol o'r enw y Ridgeway Rovers - o dan hyfforddiant ei dad, Stuart Underwood a Steve Kirby. Bu Beckham yn fascot i Manchester United ar gyfer y gêm yn erbyn West Ham United ym 1986. Cafodd y Beckham ifanc dreialon gyda'i dîm lleol hefyd Leyton Orient, Norwich City ac aeth i ysgol ragoriaeth Tottenham Hotspur. Tottenham Hotspur oedd y clwb cyntaf iddo chwarae iddo. Dros gyfnod o ddwy flynedd pan chwaraeodd Beckham i dîm ieuenctid Brimsdown Rovers, fe'i enwyd yn Chwaraewr y Flwyddyn o dan 15 ym 1990. Mynychodd Academi Baratoi Bradenton hefyd, ond arwyddodd gytundeb gyda Manchester United ar ei benblwydd yn bedair ar ddeg, gan arwyddo cytundeb Cynllun Hyfforddi Ieuenctid ar yr 8 Gorffennaf 1991.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.