David Brunt

meteorolegydd ac is-lywydd y Gymdeithas Frenhinol

Meteorolegydd Cymreig oedd David Brunt (17 Mehefin 18865 Chwefror 1965). Ganwyd ym Mhenffordd-Las[1] neu Drefeglwys (Staylittle)[2][3], ger Llanidloes yn un o 9 o blant i was fferm, cyn symud i'r gweithfeydd glo yn Llanhiledd, Sir Fynwy. Mynychodd Ysgol Abertileri ac yna graddiodd mewn mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth a gradd pellach yng Nghaergrawnt.

David Brunt
Ganwyd17 Mehefin 1886 Edit this on Wikidata
Penffordd-Las Edit this on Wikidata
Bu farw5 Chwefror 1965 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethmeteorolegydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, KBE, Medal Brenhinol, Marchog Faglor Edit this on Wikidata

Ym 1915 ymunodd ag Adran Feteoroleg y Peiriannwyr Brenhinol a chanolbwyntiodd ar ddarogan y tywydd er mwyn rheoli perfformiad y gynnau mawr yn Ffrainc; sylweddolodd bwysigrwydd ystadegaeth yn y gwaith hwn. Ym 1934 daeth yn Athro yn yr adran Feteorolegol y Coleg Imperial, Llundain a chyhoeddodd lyfr Physical and Dynamical Meteoroligy, cyfrol a ddaeth yn sail gadarn i'r astudiaeth o feteoroleg. Yn y llyfr mynnodd fod yn rhaid wrth fwy nag ystadegaeth i ddarogan y tywydd, gan gynnwys: cynnwrf, trosglwydiad gwres a deinameg patrymau'r tywydd. Ym 1939 fe'i gwaed yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol ac yn Farchog ym 1949.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cymru Culture; erthygl Gymraeg Archifwyd 2014-05-30 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 17 Mehefin 2014
  2. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg y Brifysgol 2008; Prif-Olygydd: John Davies
  3. Y Y Bywgraffiadur Ar-lein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru;] adalwyd 17 Mehefin 2014